Cynllun llifogydd Biwmares yn 'atal twristiaid'
- Cyhoeddwyd
Mae pryder ym Miwmares y gallai busnesau fod ar eu colled tra bod gwaith atal llifogydd yn cael ei wneud yn y dref.
Fe ddechreuodd y gwaith ddechrau Ionawr ac fe fydd yn para am bum mis, ond gan fod y gweithwyr yn defnyddio maes parcio'r castell i storio eu hoffer mae 'na ofnau na fydd twristiaid yn ymweld â Biwmares oherwydd diffyg llefydd parcio.
Fel rhan o'r cynllun mae'n rhaid cau ffordd y B5109 a sicrhau llwybr dargyfeirio i'r dref.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir bod Biwmares yn rhywle y mae teithwyr llongau mordaith, sy'n dod i borthladd Caergybi, yn ymweld ag ef a bod busnesau yn ofni na fydd bysys yn dod yno yn ystod y misoedd nesaf.
Ychwanegodd bod y cyngor "wedi gobeithio gallu defnyddio darn o dir gwyrdd gan Gyngor Tref Biwmares fel un opsiwn ar gyfer bysys ond er cynnal trafodaethau â Chyngor Tref Biwmares yn Rhagfyr 2018, does dim cytundeb wedi'i gyrraedd".
'Peryglu dyfodol y dre'
Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry, deilydd portffolio priffyrdd y cyngor: "Yn anffodus, hyd yma nid yw ein hymdrechion i ddiogelu rhan o'r Grîn ym Miwmares fel lle parcio amgen i fysus moethus wedi bod yn llwyddiannus.
"Mae cwmnïau bysys sy'n dod â theithwyr llongau i'r dref eisoes wedi mynegi y byddai lle parcio tu allan i'r dref yn annerbyniol.
"Yn absenoldeb unrhyw opsiwn ymarferol arall, rwy'n annog y cyngor tref i gydweithio â ni er mwyn sicrhau y gall Biwmares barhau i elwa o'r farchnad dwristiaeth mordeithio hon."
Ychwanegodd y Cynghorydd Parry: "Rwy'n falch bod cyfarfod arbennig o'r cyngor tref wedi'i drefnu ac rwy'n obeithiol y gellir dod i drefniant addas.
"Oni bai y gallwn ddatrys hyn cyn hir rwy'n ofni y gallai'r mater beryglu dyfodol y dref fel rhywle y mae miloedd o deithwyr mordeithio yn dewis ymweld ag ef."
Mae'r cyngor sir eisoes wedi trafod y posibilrwydd o wneud gwelliannau i'r Grîn ym Miwmares er mwyn gallu hwyluso'r ardal i fysys, os bydd modd dod i gytundeb gyda'r cyngor tref.
Dywedodd y cynghorwyr lleol - Carwyn Jones, Lewis Davies ac Alun Roberts - eu bod yn dymuno gweld y sefyllfa yn cael ei datrys yn gyflym.
Mewn datganiad ar y cyd, fe ddywedodd y tri: "Rydym yn cydnabod fod y cynllun lliniaru llifogydd yn hanfodol i'r dref ond does gan fusnesau lleol ddim o'r gallu i golli busnes hanfodol gan y bysiau hyn sy'n ymweld â'r ardal.
"Gofynnwn i bawb weithio mewn partneriaeth er mwyn gallu dod o hyd i ateb cyn gynted â phosibl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2017