A fydd Casnewydd yn creu hanes?

  • Cyhoeddwyd
Robbie WillmottFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Robbie Willmott yn dathlu gôl agoriadol Casnewydd yn erbyn Middlesbrough yn y rownd ddiwethaf

Casnewydd yn erbyn Manchester City - pumed rownd Cwpan FA Lloegr - dydd Sadwrn, 16 Chwefror 2019.

Nid dyma'r gêm fwyaf yn hanes CPD Casnewydd. Nid dyma'r gêm bwysicaf yn hanes CPD Casnewydd.

Ond mae hi'n gêm enfawr.

Roedd cyfnod pan oedd Casnewydd yn cystadlu yn Ewrop, gyda gemau anferth yn erbyn Haugar o Hwngari a thîm disglair Carl Zeiss Jena o Ddwyrain yr Almaen.

Yna daeth y cyfnod anodd pan aeth y clwb i'r wal, ailsefydlu ond yna gorfod chwarae eu gemau cartref y tu allan i Gymru wedi i Uwch Gynghrair Cymru gael ei sefydlu yn 1992.

Yn fwy diweddar, roedd rownd derfynol gemau ail gyfle'r 'Bumed Adran' ym mhyramid pêl-droed Lloegr yn allweddol i'r clwb.

Y gwrthwynebwyr ar y diwrnod hwnnw yn Wembley oedd Wrecsam, ac mae hynt a helynt y ddau dîm ers hynny wedi bod yn dra gwahanol.

Tra bod Wrecsam yn ceisio sefydlogi o dan reolwr newydd arall tu allan i'r Gynghrair Bêl-droed, mae Casnewydd wedi llwyddo i aros yn Adran 2 ac maen nhw'n ymddangos fel eu bod wedi troi cornel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Casnewydd - yn hytrach na Wrecsam - fu'n dathlu dyrchafiad yn 2013

Ym mis Mawrth 2017, roedden yr Alltudion ar waelod yr adran ac yn ymddangos fel eu bod ar ddisgyn yn ôl i lawr.

Dyna pryd y penodwyd Mike Flynn yn rheolwr - dros dro i ddechrau, ond wedi iddo lwyddo i gadw'r clwb yn Adran 2 gyda chic ola'r tymor bron yn erbyn Notts County, fe gafodd y swydd yn barhaol.

Fe fydd yr ornest rhwng Casnewydd a Manchester City ddydd Sadwrn yn dwyn i gof camp anferthol Wrecsam pan wnaethon nhw guro Arsenal 27 mlynedd yn ôl.

Yn Ionawr 1992 roedd Wrecsam ar waelod yr adran isaf yn y Gynghrair Bêl-droed, ac roedd Arsenal ar frig y brif adran.

Bryd hynny roedd prif dimau Lloegr yn rhoi mwy o bwyslais ar y gwpan, ac roedd sêr mawr Arsenal i gyd yn chwarae ar y Cae Ras pan lwyddodd Mickey Thomas a Steve Watkin greu hanes.

Roedd y fuddugoliaeth yna o 2-1 yn drobwynt i Wrecsam - fe lwyddon nhw i aros yn yr adran erbyn diwedd y tymor yna, ac fe gawson nhw ddyrchafiad y tymor canlynol o dan arweiniad Brian Flynn.

Siawns mai dyna'r nod i Mike Flynn a Chasnewydd y tro hwn, a bydd rhediad da yng Nghwpan FA Lloegr yn rhoi hwb ariannol sylweddol i'w gobeithion o wneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debygol y bydd golwr Casnewydd, Joe Day, yn brysur ddydd Sadwrn...

Amhosib cymharu

Y tro nesaf i Gasnewydd herio Wrecsam oedd yn ail rownd Cwpan FA Lloegr y tymor hwn, ac er iddi orffen yn ddi-sgôr ar y Cae Ras, roedd Casnewydd yn fuddugol o 4-0 yn y gêm ail-chwarae yn Rodney Parade.

Arweiniodd hynny at berfformiadau arwrol gan Gasnewydd wrth iddyn nhw guro Caerlŷr o'r Uwch Gynghrair yn y drydedd rownd ac yna Middlesbrough o'r Bencampwriaeth yn y bedwaredd.

Er ei bod bron yn amhosib cymharu dwy gêm o ddau gyfnod mor wahanol, fe fyddai curo Man City ar Rodney Parade ddydd Sadwrn yn orchest aruthrol i Gasnewydd.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl fe wnaethon nhw gael gêm gyfartal gartref yn erbyn Tottenham Hotspur cyn colli'r gêm ail-chwarae.

 hithau bellach yn bumed rownd, ni fydd ail-chwarae.

Os fydd hi'n gyfartal ar ôl 90 munud ddydd Sadwrn, fe fydd amser ychwanegol ac yna ciciau o'r smotyn i benderfynu enillydd.

Gall unrhyw beth ddigwydd. Mae'n gêm od weithiau. Mae sawl ystrydeb arall yn addas.

Ond os fyddan nhw'n llwyddo, bydd cefnogwyr Wrecsam a Chasnewydd yn dadlau am flynyddoedd pa un oedd y gamp fwyaf.

I'r bobl niwtral yng Nghymru, does bosib mai dathlu canlyniad anhygoel arall fyddai'r peth callaf?