Trafod cyflwyno mwy o ddiwrnodau hyfforddiant mewn swydd

  • Cyhoeddwyd
dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Gall athrawon dderbyn diwrnod ychwanegol o hyfforddiant mewn swydd o ganlyniad i gynlluniau sydd wedi'u cyhoeddi gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Pwrpas y newidiadau fyddai cynnig cefnogaeth broffesiynol i athrawon cyn bod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn 2022.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys diwrnod ychwanegol o hyfforddiant pob blwyddyn am y tair blynedd nesaf.

Mae ymgynghoriad ar y newidiadau yn dechrau dydd Mawrth.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys trafodaethau yn ymwneud â thâl athrawon a materion arweinyddiaeth.

Dywedodd Ms Williams: "Mae diwrnod HMS ychwanegol yn dangos pa mor ddifrifol ydyn ni am roi amser a chefnogaeth ddigonol i athrawon wrth baratoi at y cwricwlwm newydd.

"Mae'r dyddiau HMS yma, ynghyd a'r £24m gafodd ei gyhoeddi ar gyfer y Dull Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol, yn brawf o fuddsoddiad gwirioneddol yn y proffesiwn."

Yn ôl Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Byddai diwrnod o hyfforddiant mewn swydd ychwanegol y flwyddyn yn rhywfaint o help, ac yn bendant yn gam i'r cyfeiriad iawn - er y mae'n glir na fydd hynny'n ddigon yn ei hun."