Damwain awyren Caernarfon: 'Peilot wedi colli rheolaeth'
- Cyhoeddwyd

Roedd John Backhouse yn hedfan o Northwich i Ddulyn yn ei awyren Piper PA-31 Navajo
Mae ymchwiliad i ddamwain awyren angheuol yng Ngwynedd yn credu fod y peilot wedi colli rheolaeth o'r awyren oherwydd nam yn y system rheoli.
Bu farw John Backhouse, 62, ar ôl taro llain lanio Maes Awyr Caernarfon wrth iddo hedfan o Northwich i Ddulyn ar 6 Medi 2017.
Mae adroddiad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn nodi fod Mr Backhouse wedi dweud wrth y gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr fod ganddo broblemau technegol pum munud cyn y ddamwain.
Dywedodd yr AAIB fod pennu union achos y ddamwain yn anodd iawn oherwydd y niwed i weddillion yr awyren.
Gofynnodd y peilot am ganiatâd i lanio ym maes awyr Caernarfon am 17:25, ond nid oedd unrhyw gyswllt pellach gyda Mr Backhouse wedi hynny.
Tarodd yr awyren y llain lanio ger Caernarfon ar "gyflymder uchel" yn ôl llygaid dyst. Aeth y peiriant ar dân a daeth cadarnhad yn ddiweddarach bod y peilot wedi marw yn y fan a'r lle.
Roedd Mr Backhouse yn beilot profiadol oedd yn gallu hedfan amryw o awyrennau a hofrenyddion.
Roedd yr awyren wedi ei chofrestru gydag awdurdodau hedfan yr Unol Dalaethiau ac roedd ei thystysgrif diogelwch yn ddilys.

Plymiodd yr awyren i'r ddaear ym Maes Awyr Caernarfon yn Ninas Dinlle wedi i'r safle gau am y diwrnod
Fe edrychodd yr AAIB ar y posibilrwydd fod Mr Backhouse wedi profi diffygion gyda system autopilot yr awyren.
Yn dilyn profion, daeth y corff i'r casgliad y byddai hi wedi bod yn "hynod o anodd" i'r peilot gadw rheolaeth yn y fath amgylchiadau.
Ychwanegodd yr adroddiad bod y niwed a wnaed i weddillion yr awyren gan y tân wedi gwneud hi'n anodd iawn pennu union achos y ddamwain, ond ei bod hi'n bosib fod yr awyren wedi disgyn ar gyflymder a bod y peilot wedi colli rheolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2017
- Cyhoeddwyd7 Medi 2017
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017