Galw am godi ymwybyddiaeth o arthritis ymysg pobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae mam merch 10 oed sydd ag arthritis yn dweud bod angen i bobl wybod bod y cyflwr yn effeithio ar bobl o bob oed.
Pump oed oedd Fflur Edwards o Lanfairpwll pan sylwodd ei rhieni bod rhywbeth o'i le.
Roedd hi'n cael trafferth siarad, ac fel merch sydd wrth ei bodd yn dawnsio, roedd symud a phlygu rhannau o'i chorff yn anodd ac yn boenus.
"Dwi'n cofio cael fy nghario i fyny ac i lawr y grisiau. Dwi'n trio cofio tro cyntaf i gwddw fi brifo. Roedd o'n teimlo fel bod o'n anodd symud, ac roedd o'n brifo i symud fy mhen," meddai Fflur.
Rai misoedd wedyn, cafodd ei rhieni wybod bod gan Fflur fath o arthritis sy'n effeithio ar blant, sef juvenile idiopathic arthritis neu JIA.
Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar un ymhob 1,000 o blant yn y Deyrnas Unedig.
'Neb yn arbenigo'
Yn ôl Anwen, mam Fflur, mae angen i rieni fod yn ymwybodol o'r symptomau a mynd at eu meddyg teulu os ydyn nhw'n amau bod rhywbeth o'i le.
Mae Fflur yn cael tabledi a phigiadau ac nid yw'r cyflwr yn ei hatal rhag gwneud unrhyw beth. Mae'n mwynhau canu, actio a dawnsio, ac mae'n chwarae sawl offeryn.
Yn ôl Fflur: "Pan dwi'n neud rhywbeth ar y llwyfan, ac mae Mam yn dweud [wrth bobl] bod gen i arthritis, maen nhw'n cael sioc achos fysan nhw ddim yn meddwl mod i'n gallu 'neud nhw."
Ond does dim ymgynghorydd pediatrig rhiwmatoleg llawn amser yng Nghymru.
Dywed Anwen: "Mae'n rhaid i ni naill ai teithio i Alder Hay yn Lerpwl neu bod yr arbenigwyr yn dod i Ysbyty Gwynedd atom ni. Does neb yma yng Nghymru yn arbenigo ac felly mae hynny'n broblem."
Cymru ydy'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig lle nad oes gwasanaeth rhiwmatoleg llawn amser i blant - rhywbeth sy'n rhaid ei newid yn ôl elusennau fel Versus Arthritis.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu gwasanaeth newydd yng Nghaerdydd - ac maen nhw'n edrych ar gynlluniau i wella gwasanaethau i bobl sy'n byw gyda phob math o arthritis.
Yn ei 30au cynnar, mae Lowri Wynn Morgan, sy'n byw ger Y Fenni, yn gwybod ers wyth mlynedd bod ganddi fath gwahanol o arthritis - sef arthritis gwynegol neu rhiwmatoid.
Ychydig dros 500 o bobl ifanc rhwng 15 a 34 oed sydd â'r cyflwr yng Nghymru - a merched ydy bron i 400 o'r rheiny.
Mae hynny'n cymharu â dros 11,000 o bobl dros 65 oed.
Esboniodd Lowri bod "'na ddiwrnodau pan mae'n anodd rhoi un droed o flaen y llall".
"Dwi methu agor fy nwylo yn hollol agored. Mae'r joints i gyd yn brifo. Maen nhw'n teimlo'n dynn o hyd," meddai.
'Anodd esbonio'
A hithau'n fargyfreithwraig, mae'n gorfod sefyll ar ei thraed am oriau ac mae hynny'n boenus. Mae Lowri wedi gorfod cael cyfnodau o'i gwaith.
"Mae'n anodd gallu esbonio i'r bobl agosaf atoch chi pam chi ddim eisiau gadael y gwely, pam bo chi'n teimlo mor isel, pam bo chi'n gorfod cael chwe bath y diwrnod i wneud i'ch joints chi deimlo'n well," meddai.
Mae'n dweud bod 'na ddiffyg ymwybyddiaeth o bobl ifanc sydd ag arthritis.
"Mae pobl wastad yn dweud 'Paid bod mor dwp. Ti'n rhy ifanc.' Mae hynny'n anodd i ddygymod gyda.
"Ond heb yr ymwybyddiaeth mae'n anodd cael cefnogaeth gan bobl yn gwaith a phobl gyffredin."
Dair blynedd ers i Lowri gael diagnosis, dydy'r tabledi heb gael gwared â'r boen ac mae rhai ohonynt yn gwneud ei system imiwnedd hi'n wan.
Llynedd, roedd hi'n sâl iawn gyda sepsis - ac roedd hi'n lwcus iddi gyrraedd yr ysbyty pan wnaeth hi.
"Fe ddywedodd y doctor os bydden i 'di cyrraedd yr ysbyty dair awr yn hwyrach, bydden i 'di marw.
"Ers cael y sepsis, mae hynny wedi bod yn hwb. Fi'n trio peidio gadael iddo fe reoli. Mae 'na olau ar ddiwedd y twnnel."
Prinder gofal arbenigol
Mae 'na bryder nad ydy'r gofal arbenigol ar gael yng Nghymru, gyda nifer o swyddi ymgynghorwyr rhiwmatoleg yn wag.
O'r wyth swydd yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae tair ohonynt yn wag. Yn y de, mae dwy swydd wag yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda a dwy arall yn wag ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Yn ôl Dr Ceril Rhys-Dillon, sy'n ymgynghorydd rhiwmatoleg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg: "Mae 'na esiamplau lle mae pobl yn cael gofal arbennig yng Nghymru. Ond does 'na ddim cyllideb i sicrhau bod pob ardal yng Nghymru yn cael y gofal gorau.
"Mae sicrhau'r gofal gorau yn hollbwysig. Os ydyn ni'n trin y clefyd yma yn gynnar, allwn ni ddileu problemau yn y dyfodol."
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar gynlluniau i wella gwasanaethau i bobl sy'n byw â phob math o arthritis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2016