Ymchwil i weld all dronau helpu cleifion gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae defnydd dronau i gynorthwyo cleifion mewn ardaloedd gwledig yn cael ei ystyried gan ymchwilwyr yng Nghymru.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gobeithio y gallai gwaith ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth i'r defnydd posib o ddronau gynorthwyo cleifion mewn ardaloedd gwledig yn y dyfodol.
Dywedodd yr ymchwilwyr y byddai'r dronau yn gallu hedfan eu hunain i gyfeiriadau penodol, heb fod angen unigolion i'w rheoli.
Yn eu hôl nhw, byddai cynllun o'r fath yn ffordd "arloesol, dibynadwy a rhad i gyrraedd cleifion mwyaf bregus Cymru".
Rhai o'r posibiliadau dan ystyriaeth yw defnyddio dronau i gludo gwaed neu ddiffibrilwyr i gleifion mewn ardaloedd anghysbell, yn enwedig mewn cyfnodau o dywydd garw.
Bydd gwyddonwyr o Aberystwyth yn cynnal grŵp ffocws ddydd Iau gydag aelodau'r cyhoedd yn cymryd rhan yn y prosiect.
Fe fydd canlyniadau'r astudiaeth yn cael eu datblygu i fod yn rhan o gais am grant i sefydlu cynllun prawf ar gyfer y gwasanaeth.
Dywedodd Rachel Rahman, cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil i Ragoriaeth Iechyd Gwledig y brifysgol, fod cael gafael ar wasanaethau iechyd yn gallu bod yn her ar adegau.
"Ni'n edrych ar bethau fel os gallwn ni gael defibrillators yn rhan o drôns i allu dosbarthu mas, neu os gallwn ni ddefnyddio rhain i ddelifro samplau lawr i labordai yn gyflymach, dosbarthu gwaed pan ma' angen, felly dy'n ni a diddordeb i gael gweld os all y pethau 'ma wella gwasanaethau yn y dyfodol," meddai.
Technoleg yn datblygu'n gyflym
Fe fydd y grŵp ffocws hefyd yn rhoi modd i wyddonwyr holi cleifion am beth maen nhw am ei weld.
"Mae diddordeb gyda ni ddarganfod pa fath o bethau maen nhw'n meddwl fyddai drôn yn gallu ei wneud," meddai Ms Rahman.
"Ond hefyd i ystyried a oes unrhyw bryderon gyda nhw neu ydyn nhw'n poeni am bethau er mwyn i ni allu ystyried hynny wrth symud ymlaen.
"Mae'r dechnoleg yn datblygu'n gyflym felly mae'r posibiliad yn agosach na falle 'dan ni'n meddwl."
Yn ôl Matthew Willis o Fwrdd Iechyd Hywel Dda mae'r gwaith ymchwil yn cynnig datblygiadau cyffrous.
"Pe bai ysbyty cymunedol gwledig wedi ei ynysu oherwydd eira neu dywydd gwael, o bosib byddai modd symud cyflenwadau gwaed yno," meddai.
"Ond mae angen sicrhau deddfwriaeth a rheolau fyddai'n caniatáu hyn.
"Fe allai hyn arbed aelod staff rhag mynd ar daith beryglus mewn cyfnod o eira gwael.
"Mae angen gwybod beth mae'r drôns yn gallu ei gario ond mae hyn yn rhan o'r gwaith cyffrous mae'r brifysgol yn ei wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd14 Medi 2018