AS yn honni ei fod wedi'i 'gamarwain' gan yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
Nicholas Anthony Churton
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Nicholas Anthony Churton yn ei gartref ar 27 Mawrth 2017

Mae Aelod Seneddol Wrecsam, Ian Lucas yn dweud ei fod wedi cael ei "gamarwain yn fwriadol" gan yr heddlu ynglŷn ag achos llofruddiaeth yn ei etholaeth.

Cafodd Nicholas Churton ei ladd yn ei gartref ym Mawrth 2017 gan Jordan Davidson.

Roedd gan Davidson restr hir o euogfarnau blaenorol, ac roedd allan o garchar ar drwydded pan laddodd Mr Churton gyda chyllell a morthwyl.

Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes gydag o leia' 30 mlynedd dan glo am y llofruddiaeth.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau dywedodd Mr Lucas: "Fe wnaeth digwyddiadau arweiniodd at y drosedd ddatgelu camgymeriadau gan yr heddlu a'r gwasanaethau prawf yn Wrecsam a gogledd Cymru."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jordan Davidson ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio Nicholas Churton

Ychwanegodd Mr Lucas ei fod wedi gofyn i'r heddlu pam y cafodd Davidson ei rhyddhau o'r ddalfa bedwar diwrnod cyn llofruddiaeth Mr Churton, ac fe gafodd wybod bod hynny'n destun ymchwiliad.

"Rwy'n gwybod nawr nad oedd hynny'n wir," meddai.

"Doedd dim ymchwiliad i amgylchiadau rhyddhau Davidson.

"Yn wir wedi i mi holi fe wnaeth Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ddechrau ymchwiliad i hynny yn Ebrill 2018, a dyw'r ymchwiliad heb ddod i ben hyd yma.

"Mae materion wedi cael eu celu gan Heddlu Gogledd Cymru, y Gwasanaeth Prawf, y Cwmni Adfer Cymunedol, Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu."

Wrth ymateb i sylwadau Mr Lucas, dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gartref, Nick Hurd fod "tystiolaeth glir o fethiant" yn y modd y deliwyd gyda'r achos yma.