Diarddel nyrs am oes ar ôl twyll yswiriant £16,000
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs wedi cael ei diarddel am oes, ar ôl esgus ei bod wedi dioddef anafiadau mewn damwain car er mwyn hawlio arian yswiriant.
Roedd Nicola Bartlett, 50, wedi hawlio £16,764 ar ôl ffugio damwain car, a honni ei bod wedi ei hanafu yn y digwyddiad.
Honnodd y nyrs, a oedd yn gweithio mewn adran ddamweiniau yn Ysbyty Ystrad Fawr, Hengoed, Caerffili, bod car arall wedi taro ei char hi, a'i fod yn golled llwyr.
Ond clywodd gwrandawiad disgyblu bod yr heddlu eisoes yn ymchwilio i'r garej a ddywedodd nad oedd modd trwsio ei char.
Roedd Garej Easifix yn y Coed Duon ger Casnewydd, wedi helpu cwsmeriaid i ffugio 28 damwain a hawlio taliadau o £750,000 rhwng 2009 a 2011.
Cafodd y garej ei dal allan gan eu camerâu cylch cyfyng eu hunain, a oedd yn dangos Land Rover yn cael ei yrru'n fwriadol i mewn i wagen fforch-godi.
Roedd Bartlett hefyd wedi trin ei thad yn yr ysbyty, a gwneud nodiadau meddygol am "anafiadau" yr honnwyd iddo ddioddef mewn damwain ffug arall.
Clywodd y gwrandawiad fod Bartlett wedi cael ei diswyddo gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn Awst 2016.
Nawr mae panel o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi ei diarddel rhag gweithio fel nyrs am oes.
Dywedodd cadeirydd y panel, Robert Barnwell, bod yr hyn wnaeth Bartlett "yn bell oddi wrth y safonau a ddisgwylid gan nyrs gofrestredig", ac nad oedd modd i'w henw aros ar y gofrestr nyrsio.
"Roedd y panel o'r farn bod yr amgylchiadau yn yr achos hwn yn dangos bod ymddygiad Mrs Bartlett yn ddifrifol, a byddai caniatáu iddi barhau i weithio fel nyrs yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn ac yn y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel corff rheoli," meddai.
Cafodd Bartlett, o'r Bargoed, ei charcharu am flwyddyn gan Lys y Goron Caerdydd yn 2018.
Roedd hi'n un o 150 o bobl a gymerodd ran yn y twyll yswiriant mwyaf o'i fath ym Mhrydain.
Roedd y busnes teuluol wedi ennill £2m trwy gynllwynio gyda rhwydwaith a ffrindiau a pherthnasau i dwyllo cwmnïau yswiriant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2015