'Angen enbyd' am wariant ar gyfleusterau mynyddoedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae angen buddsoddi yn yr isadeiledd o amgylch mynyddoedd Cymru er mwyn darparu ar gyfer y nifer cynyddol o ymwelwyr, yn ôl y Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP).
Mae'n dweud bod angen gwario i wella profiad ymwelwyr, lleihau'r effaith ar drigolion lleol a lleihau effaith twristiaeth ar yr amgylchedd.
Daw'r alwad ar ôl i dorfeydd o bobl gael eu gweld yn disgwyl i allu cyrraedd copaon Yr Wyddfa a Phen y Fan dros wyliau'r Pasg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod £2.2m yn cael ei wario ar wella isadeiledd.
'Sut allwn ni ymdopi?'
Roedd pob tocyn ar gyfer y trên i gopa'r Wyddfa wedi'u gwerthu o flaen llaw ar gyfer ddydd Llun y Pasg eleni - diwrnod ailagor Hafod Eryri ar gyfer tymor yr haf.
Fe wnaeth lluniau ar gyfryngau cymdeithasol ddangos llu o bobl yn disgwyl yn amyneddgar am luniau ar y copa, gyda golygfeydd tebyg ar gopa Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog hefyd.
Mae hynny wedi codi pryderon nad yw twristiaid yn cael profiad cwbl bositif, gyda meysydd parcio gorlawn a diffyg toiledau a thrafnidiaeth.
Gyda disgwyl i nifer yr ymwelwyr gynyddu dros fisoedd yr haf, mae pryder hefyd am yr effaith mae'r dwristiaeth yma'n ei gael ar y gymuned a'r amgylchedd lleol.
"Mae'n grêt gweld degau, os nad cannoedd o filoedd o bobl yn mwynhau cefn gwlad Cymru, ond sut allwn ni ymdopi a delio gyda chymaint o bobl?" meddai Elfyn Jones o'r CMP.
"Mae llwybrau'n cael eu herydu, mae meysydd parcio'n orlawn a does gennym ni ddim digon o gyfleusterau am sbwriel na thoiledau.
"Mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn ein hisadeiledd os ydyn ni am gynnal y twf yn nifer y bobl sy'n dod yma.
"Mae'n anhrefn llwyr i'r bobl leol sy'n ceisio byw yn ei ganol."
'Hanner yr adnoddau, dwbl yr ymwelwyr'
Mae Partneriaeth Yr Wyddfa wedi cael ei sefydlu er mwyn amddiffyn a gwella "yr hyn sy'n gwneud yr ardal yn unigryw ac arbennig".
Y llynedd fe wnaeth eu gwirfoddolwyr dynnu 400 bag o sbwriel oddi ar y mynydd.
Ond mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud bod y mannau sydd fwyaf poblogaidd gydag ymwelwyr ag "angen enbyd am fuddsoddiad mawr".
Dywedodd Helen Pye o'r awdurdod: "Yr amcangyfrif yw bod ymwelwyr yn dod â gwerth £69m o fudd economaidd i ardal Yr Wyddfa, ond mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar y gymuned leol, y mynydd ac amgylchedd yr ardal.
"'Da ni hefyd yn gynyddol bryderus bod safon yr isadeiledd yn dechrau cael effaith ar brofiad pobl o Eryri a Chymru.
"Rydyn ni a'n partneriaid yn gwneud ein gorau gyda'r adnoddau cyfyng sydd gennym ni.
"Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hanner yr adnoddau oedd ganddo 20 mlynedd yn ôl, ond mae nifer yr ymwelwyr wedi dyblu."
Mae'r awdurdod yn galw am fuddsoddi mewn cyfleusterau i ymwelwyr, yn enwedig ym Mhen y Pass a Llanberis, gan alw hefyd am adolygiad o drafnidiaeth a meysydd parcio'r ardal.
Mae'r heddlu wedi rhybuddio ymwelwyr â Phen y Fan yn y gorffennol i beidio parcio'n anghyfreithlon ar ochr ffordd brysur yr A470.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cyfaddef bod "angen gwneud mwy" ond yn dweud eu bod yn wynebu pwysau ariannol.
"Mae'n bwysig bod ymwelwyr yn cael profiad positif ac yn cefnogi'r economi leol," meddai Steve Gray o'r awdurdod.
"Mae'r grêt gweld pobl yn ymweld â'r parc ac yn mwynhau'r buddion iechyd a lles mae hynny'n ei gynnig, ond mae nifer fawr o ymwelwyr yn gallu achosi problemau weithiau.
"Mae'r lluniau welon ni dros benwythnos y Pasg yn amlygu'r angen am fuddsoddiad pellach er mwyn gwella'r isadeiledd ar gyfer ymwelwyr."
Addo gwelliannau
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn gynharach eleni fe wnaethon ni gyhoeddi £2.2m i wella isadeiledd twristiaeth, gan gynnwys gwelliannau i barcio, llwybrau seiclo a thoiledau.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n parciau cenedlaethol ac awdurdodau lleol i wneud mynediad at ein lleoliadau mwyaf poblogaidd hyd yn oed yn well."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2018