'Gwastraff' pleidleisio dros UKIP a'r Brexit Party

  • Cyhoeddwyd
Dan BoucherFfynhonnell y llun, Dan Boucher
Disgrifiad o’r llun,

Dan Bouchers yw prif ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Nghymru

Mae pleidleisio dros UKIP neu'r Brexit Party yn yr etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop yn "wastraff", yn ôl prif ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Dan Boucher.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr lansio ymgyrch Etholiad Seneddol Ewrop y blaid yng Nghymru yng Nghwmbrân nos Iau.

Dywedodd Jacob Rees-Mogg yn y cyfarfod ei bod hi'n bwysig cefnogi'r Ceidwadwyr er mwyn sicrhau bod gan y blaid seiliau cadarn ar gyfer yr arweinydd nesaf.

Mae'r Ceidwadwyr wedi ennill sedd Gymreig ym mhob etholiad ar gyfer Senedd Ewrop ers 1999.

Ond yn ôl un ffynhonnell yn y lansiad - fe fydden nhw'n synnu petasai'r Torïaid yn ennill sedd y tro yma.

Dywedodd Mr Boucher bod y ffaith nad oes gan UKIP a'r Brexit Party unrhyw Aelodau Seneddol yn golygu nad oes modd iddyn nhw wneud gwahaniaeth ar Brexit.

Mae Mr Boucher yn gyfarwyddwr materion cyhoeddus i Christian Action and Research Education - elusen sydd wedi ymgyrchu ar faterion yn ymwneud ac erthylu a phriodasau un rhyw.

Dywedodd na fyddai wedi pleidleisio o blaid priodasau un rhyw oherwydd ei ffydd, ond nad oedd yn bwriadu herio'r penderfyniad hwnnw.

"Pe bawn i yn cael fy ethol, byddwn yn edrych ymlaen at gynrychioli pobl o bob rhywioldeb, crefydd a lliw croen," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jacob Rees-Mogg yn annerch torf o tua 150 yn y digwyddiad yng Nghwmbrân nos Iau

Dywedodd Mr Rees-Mogg wrth y dorf yng Nghwmbrân nad oes ganddo hyder yn y Prif Weinidog Theresa May, a'i fod yn credu y dylai Boris Johnson gymryd ei lle.

"Rydw i eisiau i ni adael yr Undeb Ewropeaidd," meddai.

"Rwy'n credu y dylen ni fod wedi gadael ar 29 Mawrth ond mae gennym ni'r etholiadau 'ma ac rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod pleidlais dda ar gyfer y Ceidwadwyr ac ar gyfer y rheiny sydd eisiau gadael."