Tri o draethau Cymru yn colli statws Baner Las
- Cyhoeddwyd
Mae tri thraeth poblogaidd yng Nghymru wedi colli eu statws Baner Las, am fod anghysonderau wedi bod yn ansawdd dŵr y môr dros y flwyddyn ddiwethaf.
Y llynedd roedd traethau Aberdaron, Tywyn a Bae Whitmore, sef prif draeth Y Barri, ymhlith 43 traeth a gafodd y statws.
Eleni mae 40 o draethau, tri marina ac un cwmni teithiau cychod cynaliadwy wedi cael y Faner Las am safon y dŵr a'u cyfleusterau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod nifer o ffactorau a all effeithio ar ansawdd dŵr, gan gynnwys glaw trwm.
Ers dros dri degawd, mae'r Faner Las wedi cael ei defnyddio er mwyn ceisio pwyso ar awdurdodau lleol a chyrff eraill i wella ansawdd dŵr, ymwybyddiaeth amgylcheddol, amddiffyniad, diogelwch a gwasanaethau.
Yn ôl Cadw Cymru'n Daclus mae "amrywiaeth rhwng dosbarthiadau dŵr ymdrochi da a rhagorol yn digwydd bob blwyddyn" ac nad yw'n anghyffredin i draeth amrywio rhwng ardderchog a da.
"Gall hyn gael ei achosi gan lawer o wahanol ffactorau," meddai'r elusen, sy'n dweud y byddan nhw'n cydweithio yn y gobaith y gall y traethau adennill eu Baneri Glas yn 2020.
'Siomedig iawn'
Yn 2018 fe lwyddodd traeth Tywyn yng Ngwynedd adennill ei Baner Las ar ôl ei cholli yn 2017.
Yn ôl un cynghorydd lleol, Alun Wyn Evans, mae'r newyddion bod y traeth wedi colli'r statws unwaith eto eleni yn "siomedig iawn".
"Mae pobl sy'n dod i Dywyn isio gweld bod yna Faner Las yma, mae'n sicr yn denu pobl yma, felly dwi'n ofni y bydd hyn yn eu cadw nhw draw.
"Fe glywsom ni ddwy flynedd yn ôl ein bod ni wedi colli'r statws oherwydd bod y gwaith ar y sea defences, o bosib, wedi effeithio ar ganlyniadau'r profion dŵr - ond beth sydd wedi mynd o'i le y tro yma?
"Efallai bod yn rhaid i ni roi o lawr i'r holl dywydd garw 'da ni wedi ei gael yn y flwyddyn ddiwethaf.
"Ond yn sicr mi fydd gofyn i ni wneud popeth nawr i wneud yn siŵr ein bod hi'n ei gael o'n ôl."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod llawer o'n traethau yng Nghymru wedi ennill gwobrau arfordirol eleni, nid yw rhai wedi cynnal eu gwobrau.
"Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn yr ardaloedd hyn i fynd i'r afael ag unrhyw faterion ansawdd dŵr.
"Mae nifer o ffactorau a all effeithio ar ansawdd dŵr, gan gynnwys glaw trwm.
"Er gwaethaf y gostyngiad bach yn nifer y traethau a enillodd wobrau arfordirol eleni, mae gan Gymru fwy o Faneri Glas yn hedfan y filltir nag unrhyw le arall yn y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2017