Ystyried sefydlu ysgol ardal newydd yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Ciliau ParcFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Ciliau Parc yn un o dair ysgol fyddai mewn peryg o gau

Mae Cyngor Ceredigion yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar sefydlu ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron.

Pe bai'r cynlluniau yn cael eu gwireddu mae'n bosib y gallai arwain at gau tair ysgol gynradd - Ysgol Ciliau Parc, Ysgol Dihewyd ac Ysgol Felinfach.

Daw'r drafodaeth yn dilyn penderfyniad y cabinet i gau tair ysgol gynradd arall yng Ngheredigion bythefnos yn ôl.

Mae'r awdurdod lleol yn ffafrio'r dewis o gau'r ysgolion llai a chreu ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron i 210 o blant rhwng 3 - 11 oed.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, sydd â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, bod "moderneiddio'n bwysig".

Bydd sawl opsiwn yn cael eu trafod yn ystod yr ymgynghoriad, gan gynnwys cyflwyno darpariaeth feithrin ar yr un safle.

Llefydd gwag a chostau sydd wedi arwain at y drafodaeth, yn ôl y cyngor.

'Cynnal safonau'

Fe gafodd y posibilrwydd o gau'r ysgolion a chreu ysgol ardal ei drafod yn 2016, ond fe gafodd y drafodaeth ei oedi.

Bydd cynnal yr ymgynghoriad y tro hwn yn caniatáu i'r cyngor gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y llywodraeth yn talu arian cyfatebol am gost adeiladu'r ysgol.

Ychwanegodd Ms Miles: "Gall pawb yn Nyffryn Aeron a thu hwnt gael dweud eu barn am y cynnig hwn. Os oes gennych rywbeth i'w ddweud neu awgrym i'w wneud, gallwch wneud hynny drwy'r ymgynghoriad.

"Rydym wedi ymrwymo i gynnal safonau addysg uchel yn y sir. Mae'r rhaglen foderneiddio yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod disgyblion Ceredigion yn cael y cyfleoedd gorau posib yn yr ysgol."

'Heriau penodol'

Mae Hywel Ifans wedi ymgyrchu yn erbyn cau Ysgol Dihewyd yn y gorffennol.

Yn siarad ar ran Cyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad dywedodd: "Mae hi'n amhosib i ni wneud sylwadau ar bethau fel effaith ar y gymuned a threfniadau cludiant nes bod union safle'r ysgol newydd wedi'i ddewis.

"Mae pob un o'r opsiynau a ddynodir yn y ddogfen ymgynghori yn cyflwyno heriau penodol. Wrth ystyried cynlluniau ar gyfer diogelwch traffig, er enghraifft, mae'r heriau'n gwahaniaethu'n fawr o safle i safle.

"Felly, wrth ystyried dyfodol addysg ac economi'r ardal ac er tegwch i rieni, plant a'r bobl leol, nid yw'r cyngor yn barod i gymeradwyo unrhyw newid i'r status quo nes i leoliad yr ysgol newydd gael ei wneud yn hysbys."