Canolfan Gymunedol Moelyci yn nwylo'r gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd

Mae fferm gymunedol arbennig ger Bangor wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Roedd Canolfan Amgylcheddol Moelyci yn un o'r ffermydd cyntaf o'i bath ym Mhrydain ac yn eiddo i'r gymuned leol.
Maen nhw wedi brwydro i oroesi ers tro, gydag Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry wedi camu i'r adwy yn 2015.
Yn ôl y gweinyddwyr, ni fydd y penderfyniad yn effeithio ar bob rhan o'r fenter.
Mae'r ganolfan yn cynnwys caffi a siop, gardd fasnachol, ac mae'n cynnig cyfleoedd i bobl ddi-waith wirfoddoli ar y fferm er mwyn meithrin sgiliau gwaith.
Mae'r ganolfan wedi bod mewn sefyllfa fregus yn ariannol yn y gorffennol.
Collodd y ganolfan gytundebau gyda'r llywodraeth a'r awdurdod lleol yn 2012, ond yn 2014, camodd Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry i'r adwy.
Bryd hynny, addawodd yr ymddiriedolaeth gydweithio gyda'r fenter, i gynnal a datblygu'r prosiectau oedd ar waith yng Nghanolfan Amgylcheddol Moelyci yn barod.

Cafodd y ganolfan gymunedol ei sefydlu gan y gymuned leol yn 2002
Fodd bynnag, deufis yn ôl, cafodd aelodau'r fenter wybod gan gyfarwyddwyr y ganolfan eu bod yn gobeithio rhannu'r fferm yn bedair rhan a gwerthu'r tir fesul rhan.
Dywedodd y cyfarwyddwyr hefyd bod tri phrynwr posib wedi ymrwymo i wneud cynigion pendant i brynu rhannau o'r fferm.
Roedd un o'r prynwyr o gonsortiwm a fyddai'n "ymgymryd â rhedeg y fferm a hyrwyddo gwaith y fenter mewn ffyrdd newydd a chyffrous a fyddai'n sicrhau bod y ganolfan yno i'r gymuned ei mwynhau".
Cafodd cyfarfod blynyddol y ganolfan, a oedd i fod i gael ei gynnal ar 2 Gorffennaf, ei ohirio ar fyr rybudd, a bellach mae'r aelodau wedi cael gwybod bod y fenter wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Dyfodol Moelyci
Er i fwrdd Moelyci geisio creu cynllun i achub y fenter, nid oedd modd cyflawni hynny yn yr amserlen a gafodd ei rhoi iddyn nhw.
Dywedodd un o'r gweinyddwyr sydd bellach yn gyfrifol am Ganolfan Amgylcheddol Moelyci, Lindsey Cooper o RSM Restructuring Advisory LLP, eu bod yn "trafod gyda phrynwyr posib am werthu'r tir" a'u bod yn gobeithio sicrhau'r gwerthiant cyn gynted â phosib.
Ychwanegodd Ms Cooper na fyddai'r cam yn effeithio ar y siop na'r caffi - sy'n cael eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry - na'r rhandiroedd a busnes Snowdonia Donkeys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2016
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2014