'Cwestiynau difrifol' am reolaeth Prifysgol Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae angen gofyn cwestiynau mawr am faterion mewnol Prifysgol Abertawe, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Mae'r brifysgol bron i saith mis yn hwyr yn cyhoeddi ei datganiad ariannol - yr unig sefydliad yng Nghymru, Lloegr a'r Alban sydd heb wneud hynny.
Yn ôl y brifysgol daw'r oedi yn sgil amgylchiadau cwbl eithriadol wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad mewnol.
Mae'r brifysgol hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi gwahardd chweched aelod o staff fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw.
Roedd gofyn i brifysgolion gyflwyno'u datganiadau i'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) erbyn 30 Tachwedd 2018.
Dywed HEFCW ei bod hi'n "anaml iawn" i gyfrifon gael eu cyflwyno'n hwyr a bod yr un sefydliad wedi oedi cyhyd â Phrifysgol Abertawe.
'Dim cymhariaeth'
Yn ôl y cyrff cyfatebol i HEFCW yn Lloegr a'r Alban mae pob prifysgol arall wedi cyflwyno eu datganiadau ariannol ar gyfer 2017/18.
Dywed Prifysgol Abertawe bod eu cymharu â sefydliadau addysg uwch eraill "yn gamarweiniol" oherwydd eu bod yng nghanol archwiliadau mewnol.
"Dydy'r oedi ddim yn adlewyrchu lles ariannol neu berfformiad y brifysgol," meddai llefarydd.
"Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal ymchwiliad mewnol sylweddol, ac mae ein harchwilwyr yn cynnal rhagor o ymholiadau...
"Mae'r amgylchiadau yma yn amlwg yn eithriadol ac anarferol ac mae cymharu hyn â phrifysgolion eraill, nad sydd yn yr un sefyllfa, yn gamarweiniol."
Mae HEFCW'n dweud nad ydyn nhw, hyd yma, wedi cymryd y camau posib i ymyrryd pan fo prifysgol yn methu â chydymffurfio â gofynion rheoli cyllid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn gofyn am "sicrwydd pendant" ynghylch sefyllfa ariannol y brifysgol.
'Dim yn ddigon da'
Ond mae'r newyddion yn "destun pryder dwfn" i bawb sy'n gweithio neu'n astudio yno, yn ôl Ms Sayed, un o ACau De Orllewin Cymru.
"Rydyn ni bron â bod heb glywed dim gan y brifysgol, Llywodraeth Cymru na HEFCW ers dechrau'r problemau presennol ddiwedd y llynedd," meddai
"Doedd e ddim yn ddigon da chwe mis yn ôl a dyw e'n sicr ddim yn iawn nawr.
"Rhaid i'r brifysgol gyflwyno'i chyfrifon. Mae'r ffaith nad yw wedi gwneud hynny am gyfnod mor hir yn naturiol yn codi cwestiynau difrifol am y materion mewnol ac os oes gyda nhw rywbeth i'w guddio.
"Hefyd mae angen iddyn nhw ddatgan yn glir be ddigwyddodd yn nhermau newidiadau rheoli a gwaharddiadau, a chynnig datrysiad clir."
Mae'r brifysgol wedi cadarnhau eu bod wedi gwahardd uwch swyddog arall - y chweched mewn saith mis.
Mae wedi gwrthod cadarnhau yn y gorffennol pam bod aelodau staff wedi'u gwahardd.
Cafodd pedwar eu gwahardd yn Nhachwedd 2018 dros gynlluniau i godi Pentref Llesiant Llanelli, gan gynnwys yr Is-ganghellor, Yr Athro Richard B Davies a deon yr Ysgol Reolaeth, Marc Clement.
Cafodd pumed aelod o staff ei wahardd ym mis Chwefror.
Mae'r pump yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le ac mae pedwar ohonyn nhw wedi cwyno'n ffurfiol yn erbyn y brifysgol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2018