Emiliano Sala: Arestio dyn ar amheuaeth o ddynladdiad

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwoaleth cyn-ymosodwr Caerdydd, Emiliano Sala wedi arestio dyn ar amheuaeth o ddynladdiad drwy weithred anghyfreithlon.

Daeth cadarnhad bod dyn 64 oed o Sir Gogledd Efrog wedi cael ei arestio ddydd Mercher ac yn eu helpu Heddlu Dorest gyda'r ymchwiliad.

Roedd Sala a'r peilot David Ibbotson yn hedfan dros Fôr Udd ar 21 Ionawr pan ddiflannodd eu hawyren ger ynys Guernsey.

Cafodd corff yr Archentwr 28 oed ei ddarganfod wrth archwilio gweddillion yr awyren Piper Malibu ar 4 Chwefror.

Mae'r dyn bellach wedi'i ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.