TB Sir Gaerfyrddin: Dim achos gweithredol ond 76 cudd

  • Cyhoeddwyd
Ciw Parc y Scarlets
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid ymestyn sesiynau sgrinio yn ardal Llanelli yn gynharach ym mis Mehefin

Ni chafodd achos gweithredol o twbercwlosis (TB) ei ddarganfod mewn rhaglen sgrinio yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Serch hynny, roedd 76 o achosion cudd o'r afiechyd wedi eu darganfod.

Dywedodd ICC nad yw'r math cudd yn heintus ac nad oes angen triniaeth frys.

Roedd y sgrinio yn dilyn 29 o achosion o'r clefyd yn ardal Llanelli, a marwolaeth un fenyw o'r haint.

1,400 wedi eu sgrinio

Cafodd dros 1,400 o bobl eu sgrinio dros dri diwrnod yn Llwynhendy fis Mehefin.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd pawb sy'n dangos arwyddion o'r math cudd o'r haint yn derbyn cyngor meddygol.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Margaret Pegler, 64 oed o Lwynhendy, bum niwrnod wedi iddi gael gwybod bod y clefyd arni ym mis Medi'r llynedd

Dywedodd Dr Brendan Mason o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod TB cudd yn digwydd pan fydd "unigolion wedi'u heintio gan y germ sy'n achosi TB, ond nad oes ganddynt glefyd TB gweithredol".

"Nid ydynt yn heintus ac ni allant ledaenu haint TB i eraill, ac nid ydynt yn teimlo'n anhwylus nac yn dioddef unrhyw symptomau."

Dywedodd y gallai TB cudd ddatblygu i fod yn weithredol os yw'r bacteria yn lluosi yn y corff.

"Am y rheswm hwn, gall pobl sydd â haint TB cudd gael eu trin i'w hatal rhag datblygu clefyd TB."

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cysylltu gyda chleifion sydd angen rhagor o driniaeth a'u gwahodd i ymweld â'r ysbyty i drafod y canlyniadau a chynnal profion a'r driniaeth os oes angen.

Bydd rhagor o raglenni sgrinio yn cael eu cynnal ar gyfer rheiny sydd heb gael eu profi.