Pennu dyddiad dechrau achos llofruddiaeth bwa croes

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gerald Corrigan yn yr ysbyty ar 11 Mai - wythnosau ar ôl cael ei saethu

Mae dyn 38 oed o Ynys Môn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio pensiynwr gyda bwa croes wedi ymddangos am y tro cyntaf mewn Llys Y Goron.

Cafodd Gerald Corrigan, 74, ei saethu y tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi ym mis Ebrill a bu farw o'i anafiadau yn yr ysbyty bron i fis yn ddiweddarach.

Ymddangosodd Terence Michael Whall, o Fryngwran, yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo o garchar Altcourse, Lerpwl lle mae yn y ddalfa.

Mewn gwrandawiad a barodd am 10 munud, cafodd dyddiad ei bennu ar gyfer dechrau'r achos llys, sef 14 Ionawr 2020 yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug.

Mae disgwyl i'r achos bara am bedair wythnos ac fe allai gael ei gynnal o flaen barnwr yr Uchel Lys.

Bydd disgwyl i'r diffynnydd gyflwyno ple yn ei ymddangosiad llys nesaf ar 5 Medi

Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn, Simon Rogers bod Mr Whall yn gwadu llofruddiaeth.