Eich hoff lyfrau gwyliau haf

  • Cyhoeddwyd
darllenFfynhonnell y llun, AleksandarGeorgiev

Yn paratoi i bacio'r cês i fynd ar eich gwyliau haf? I nifer, does dim yn well na gorwedd yn ôl yn yr haul ac ymgolli mewn llyfr da.

Felly mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn holi rhai pobl adnabyddus am gyngor ar pa lyfr i fynd gyda chi ar wyliau...

Catrin Beard - y ddarlledwraig ac adolygydd llyfrau

Os byddwch ar wyliau sy'n rhoi digon o amser i chi ymgolli mewn byd ffuglennol, a'ch bod yn awyddus i dreulio amser yn cyd-fyw â chymuned Gymraeg ym mhen draw byd, Ynys Fadog gan Jerry Hunter yw'r un i chi - epig o hanes gyda chymeriadau cynnes a'u hanes dros ganrif.

Cymuned ychydig yn fwy garw yw honno yn y nofel 'agerstalwm' (steampunk) Gymraeg gyntaf. Mae Babel gan Ifan Morgan Jones yn cynnwys llofruddiaeth, uchelgais, dichell, dirgelwch a chreulondeb, heb anghofio dipyn bach o gariad.

Un o gymeriadau mwyaf lliwgar Ynys Môn yw ysbrydoliaeth Siani Flewog gan Ruth Richards, sef Henry Cyril Paget, y pumed Marcwis. Dyma hanes Annie Roberts ac Eluned Humphreys, a'u cysylltiad nhw â'r marcwis a'i Gaiety Theatre ym Mhlas Newydd. Stori hwyliog, ddoniol, torcalonnus a dirdynnol gyda chynildeb medrus ac ysgrifennu cain.

Ifan Jones Evans - y cyflwynydd a'r ffarmwr

Dwi ddim yn darllen gyment ag o'n i'n arfer gwneud yn anffodus. Mae prysurdeb gwaith a theulu ifanc yn ei gwneud hi'n anodd cael amser i eistedd lawr ac ymgolli mewn llyfr.

Ond dwi'n hoff o ddarllen hunangofiannau ac wedi cael pleser mawr yn darllen llyfr y diweddar John Davies (Bwlchllan) a hanes y dyfarnwr Nigel Owens. Dwi'n edmygu gonestrwydd llyfrau'r ddau yn fawr.

Ond yn fwy diweddar, dwi wir wedi mwynhau Rhannu Ambarél gan Sonia Edwards, sef y llyfr enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2017. Cyfres o straeon byrion sy'n trafod hynt a helynt cariad a chyfrol sy'n anodd i'w roi lawr ac yn eithriadol o hawdd ei ddarllen. Yn sicr un i'w bacio yn eich siwtcês.

Gruffudd Owen - Bardd Plant Cymru

Yn ddiweddar, dwi wedi ffeindio bod rhywun yn llawer rhy brysur ar wyliau i ymroi i ddarllen nofel gyfan, felly dwi wedi mynd i'r arfer o fynd ag ambell gyfrol o farddoniaeth efo fi pan fyddaf i ar grwydr.

Gallwch werthfawrogi cerdd dda mewn pum munud wrth aros am fws neu wrth giwio am hufen iâ! Gall bardd crefftus eich hudo chi i fyd arall mewn dim o dro, sef beth mae pawb eisiau wrth fynd i ffwrdd ar wyliau. (Mae cyfrolau barddoniaeth hefyd yn dda achos tydyn nhw ddim yn cymryd gormod o le yn y cês!)

Dwi newydd fod ar wyliau yn Aberteifi ac mae Gadael Rhywbeth, cyfrol newydd Iwan Huws, wedi bod yn gwmni difyr iawn i mi.

Ac os ydych chi'n chwilio am ddeunydd darllen ar gyfer teithwyr iau gallaf argymell Pawen Lawen gan Casia Wiliam a Beirdd Plant Cymru'r goffennol. Dyma lond trol o gerddi difyr am fyd natur. Prynwch y ddwy!

Eurgain Haf - yr awdur

Ffynhonnell y llun, Eurgain Haf

Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros i mi - dyma lyfr sydd yn gwefreiddio rhywun hyd yn oed ar yr ail a'r trydydd darlleniad.

Dw i hefyd wedi derbyn y cyfrolau Siani Flewog gan Ruth Richards a Pentre Du Pentre Gwyn gan Myrddin ap Dafydd yn anrhegion pen-blwydd ac mi fyddan nhw yn dod hefo fi ar wyliau yr haf yma.

Meilyr Sion - yr awdur ac actor

Ffynhonnell y llun, S4C

Y llyfrau bydden i'n dewis i'w cymryd ar fy ngwyliau yw Dadeni, gan Ifan Morgan Jones, oherwydd fe wnaeth Bethan Gwanas ddatgan ei bod 'Y nofel berffaith i fynd efo chi ar wyliau,' yn ôl y sticyr ar y clawr!

Hefyd, Y Dŵr, gan Lloyd Jones, oherwydd mae'r llyfr wedi bod ar y silff ers ache ac mae'n hen bryd i mi ei ddarllen gan mod i wedi talu amdano fe!

Marlyn Samuel - yr awdur

Ffynhonnell y llun, Marlyn Samuel

Os nad ydych chi wedi darllen Blasu gan Manon Steffan Ros, mae'n werth pacio'r nofel yma yn eich cês.

Tydw i ddim fel arfer yn un am thrillers ond cefais flas mawr ar y ddwy nofel Taffia a Pyrth Uffern gan Llwyd Owen.

Os am lyfr i'w fwynhau wrth y pwll neu'r traeth, beth am Fi sy'n cael y ci gan Rhian Cadwaladr. Neu Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas. Mae blynyddoedd bellach ers i mi ddarllen am stori Siwsi'r wrach, ond mae'r nofel wedi aros yn y cof ac yn un o fy ffefrynnau mawr. Mae hi mor wahanol a gwreiddiol a dyma ddychymyg yr awdur ar ei orau. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i'r sequel gan Bethan!

Llyfr arall dwi'n edrych ymlaen i'w ddarllen ydi nofel newydd Mared Lewis, Treheli, sydd newydd gael ei chyhoeddi.

Hefyd o ddiddordeb: