Safon Uwch: Cyfran uchaf erioed yn sicrhau gradd A*

  • Cyhoeddwyd
Canlyniadau
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth disgyblion Cymru berfformio'n well o safbwynt gradd A* na phob un o ranbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon eleni

Mae cyfran y disgyblion sydd wedi sicrhau canlyniad A* yn eu harholiadau Lefel A ar ei huchaf yng Nghymru ers cyflwyno'r radd yn 2010.

Roedd y graddau rhwng A* ac A hefyd i fyny ychydig i 27%, gyda 9.1% yn sicrhau'r radd uchaf un.

Fe wnaeth disgyblion Cymru berfformio'n well o safbwynt gradd A* na phob un o ranbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon yn yr arholiadau Safon Uwch eleni.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams fod hyn yn dangos bod ein myfyrwyr gorau "yn ffynnu ac yn cyrraedd eu llawn botensial".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kirsty Williams yn awyddus i longyfarch yr holl ddisgyblion, athrawon a staff ysgolion Cymru

Roedd nifer y cymwysterau yn 2019 wedi gostwng 3% i 31,483 o'i gymharu â ffigyrau 2018, ac roedd nifer y ceisiadau lefel AS hefyd wedi gostwng 7.6% i 39,646 o'i gymharu â llynedd.

Yn ôl y rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru, gallai'r ffigyrau fod o ganlyniad i'r gostyngiad ym mhoblogaeth plant yn eu harddegau, disgyblion yn cymryd llai o bynciau neu'n cymryd cyrsiau gwahanol, megis BTec.

Roedd ychydig o dan 32,000 o ymgeiswyr Lefel A eleni yn dilyn gostyngiad yn y pedair blynedd diwethaf.

  • Fe wnaeth 27% o'r sawl wnaeth sefyll arholiad Safon Uwch yng Nghymru sicrhau graddau A* neu A - gan berfformio'n well na chyfartaledd y DU;

  • Mae'r gyfradd yng Nghymru hefyd yn uwch na Gogledd Iwerddon o ran sicrhau'r graddau gorau A*,

  • Roedd mwy o fechgyn wedi sicrhau gradd A* o'i gymharu â merched (9.8% yn erbyn 8.6%);

  • Ond cafodd 27.4% o'r ymgeiswyr benywaidd raddau A*-A o'i gymharu â 26.5% o fechgyn.

Fe wnaeth Ms Williams ganmol y "perfformiadau da hanesyddol" ar hyd yr holl raddau.

"Rwyf hefyd yn falch o weld y cynnydd mewn disgyblion sy'n ymgymryd â phynciau gwyddonol, fydd yn cynorthwyo gofynion ein diwydiannau yn y dyfodol.

"Mae'n ddiwrnod mawr i bawb sy'n casglu eu canlyniadau, a hoffwn longyfarch y disgyblion, ynghyd â'r athrawon arbennig a staff ein hysgolion am eu gwaith caled sydd wedi arwain at hyn."

Y pynciau mwyaf poblogaidd eleni oedd mathemateg, bioleg, hanes, cemeg a seicoleg.

Roedd hefyd cynnydd o 0.2% i 97.8% yn yr ymgeiswyr wnaeth sicrhau tystysgrif y Fagloriaeth Gymreig, gyda 21.7% yn llwyddo i gael graddau A*-A.

Mae 'na ostyngiad o 5% wedi bod yn y cofrestriadau ers y llynedd, ac mae'r gyfran wedi cwympo 17% dros bedair blynedd.

Yn ôl Cymwysterau Cymru, mae hynny'n bennaf achos bod y boblogaeth 17 ac 18 oed wedi crebachu.

Ond rhesymau posib eraill yw gostyngiad yn nifer pynciau mae myfyrwyr yn cymryd, a mwy yn dewis llwybrau gwahanol fel prentisiaeth, hyfforddiant neu gymwysterau eraill.

Eleni cafodd pum Safon Uwch newydd eu harholi am y tro cyntaf sef Dylunio a Thechnoleg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Y Gyfraith, Mathemateg Bellach ac Astudiaethau'r Cyfryngau.

Dyma ddiwedd proses sydd wedi gweld 29 Safon Uwch newydd yn cael eu cyflwyno dros bedair blynedd.