Synod Inn: Dyn 'wedi cyflawni saith o droseddau'
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor yn Llys y Goron Abertawe wedi penderfynu bod dyn 24 oed wedi cyflawni nifer o droseddau, gan gynnwys saethu plismon yn ei frest gyda'i wn Taser ei hun.
Roedd Darryl Matthew Dempsey, o Sussex, wedi ei gyhuddo o saith o droseddau wedi'r ymosodiad honedig ar y Cwnstabl Dafydd Edwards ger Synod Inn yng Ngheredigion ym mis Chwefror.
Wedi i'r barnwr ddyfarnu ar sail tystiolaeth dau seiciatrydd nad oedd y diffynnydd mewn cyflwr i sefyll ei brawf, roedd gofyn i'r rheithgor ddyfarnu, yn ei absenoldeb, a oedd wedi cyflawni'r troseddau ai peidio, yn hytrach na phenderfynu ar ei euogrwydd.
Mae diffynnydd arall, Wayne Dobson, eisoes wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau mewn gwrandawiad blaenorol a bydd yntau'n cael ei ddedfrydu ddydd Mercher.
Yn dilyn y dyfarniad yn achos Mr Dempsey, dywedodd y Barnwr Paul Thomas bod achosion o'r fath yn anarferol, a bod rhaid gohirio'r dedfrydu er mwyn trefnu lle ar ei gyfer mewn ysbyty priodol.
Roedd y cyhuddiadau yn ei erbyn yn cynnwys defnyddio arf gyda'r bwriad o osgoi cael ei arestio, achosi niwed corfforol, a dau gyhuddiad o gymryd cerbyd.
Clywodd y llys bod y Cwnstabl Edwards o Heddlu Dyfed-Powys wedi parcio mewn cilfan yn Ffostrasol ar 9 Chwefror pan welodd Land Rover glas roedd yr heddlu yn chwilio amdano yn yr ardal.
Pan stopiodd y car aeth yr heddwas i siarad gyda'r ddau ddyn yn y cerbyd.
Dywedodd Jim Davis ar ran yr erlyniad bod Mr Dempsey wedi hyrddio ato, llwyddo i gael gafael ar y gwn Taser a'i saethu yn ei frest, cyn i Dobson sathru ar ei bengliniau a'i gefn.
Ar ôl methu â dwyn car y cwnstabl, fe wnaethon nhw gymryd tractor o fferm gyfagos "gan fwrw trwy unrhyw giatiau oedd o'u blaenau", cyn cymryd Range Rover ac yna Volvo a ffoi i Aberteifi cyn gwahanu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2019
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2019