Darpariaeth 'siomedig' i anafiadau pêl-droed merched
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r diddordeb mewn pêl-droed merched gynyddu, mae llawfeddyg sy'n arbenigo mewn anafiadau difrifol yn dweud fod yr oedi sy'n wynebu chwaraewyr benywaidd am driniaeth yn "siomedig".
Dywedodd Pete Gallacher, sy'n trin dynion a merched yn y gêm, fod anafiadau i gewynnau'r pen-glin - ACL - yn "broblem gynyddol yng ngêm y merched".
Tra bod rhai o'r prif glybiau merched yn darparu yswiriant iechyd preifat i'w chwaraewyr, mae mwyafrif y clybiau merched - hyd yn oed ar y lefel uchaf - yn amatur ac felly'n gorfod dibynnu ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Ond yn aml mae oedi hir cyn cael triniaeth yn golygu diwedd ar yrfa bêl-droed.
Stori Emilie
Roedd cyn-amddiffynnwr Cymru, Emilie Revitt, ar gyrion tîm cyntaf Merched Lerpwl pan gafodd anaf difrifol i'w phen-glin am y tro cyntaf yn 2015.
Ar ôl y gêm fe deithiodd o Fanceinion i gartref ei rhieni yn Y Rhyl.
"Roeddwn i'n methu tynnu trowsus fy nhracwisg gan fod fy mhen-glin wedi chwyddo cymaint. Roedd rhaid i fi dorri nhw i ffwrdd," meddai.
Roedd hi'n wynebu oedi o naw mis am driniaeth gyda'r GIG, ond fe wnaeth clwb Lerpwl gytuno i dalu iddi gael llawdriniaeth yn breifat.
"Doeddwn i ddim wedi disgwyl hynny. Fe ges i'r llawdriniaeth chwe mis yn gynharach, ac rwy'n hynod ddiolchgar am hynny," meddai.
Ar ôl blwyddyn allan o'r gêm, fe ddychwelodd i chwarae i glwb ar lefel is ym Manceinion, ond fe gafodd yr un anaf eto yn 2018.
Blwyddyn yn ddiweddarach, ac ar ôl gohirio chwe gwaith, fe gafodd lawdriniaeth ar y GIG, ond bu'n rhaid i Emilie ymddeol o'r gamp yn 22 oed.
"I mi mae'n fater o noddwyr," meddai. "Dydw i ddim yn credu fod y gefnogaeth ariannol yna eto, ond fe ddaw wrth i'r gamp dyfu mewn poblogrwydd."
Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru mae 8,000 o ferched wedi cofrestru i chwarae i glybiau yng Nghymru yn Ebrill 2019.
Bu cynnydd o 13% yn nifer y merched dan 16 oed sy'n chwarae o'i gymharu â'r tymor blaenorol.
Dywedodd Pete Gallacher, llawfeddyg sy'n arbenigo ar bengliniau ac sy'n trin athletwyr yng Nghroesoswallt, fod cleifion "yn gallu disgwyl am chwe mis neu hyd yn oed blwyddyn" am driniaeth gyda'r GIG.
"O 'mhrofiad i mae mwyafrif llethol y pêl-droedwyr benywaidd, hyd yn oed ar y lefel uchaf, yn dod drwy'r GIG oherwydd dyw'r adnoddau ddim yna iddyn nhw gael triniaeth breifat," meddai.
"Mae hynny'n gwbl groes i'r athletwyr gwrywaidd rwy'n delio gyda nhw."
Ychwanegodd ei fod wedi trin nifer o ferched sydd wedi codi arian er mwyn talu am driniaeth breifat yn gyflymach, a'i bod yn "siomedig nad yw'r system yn eu cefnogi nhw yn well".
Dywedodd hefyd fod y goblygiadau ariannol i chwaraewyr amatur yn gallu bod yn faich sylweddol gan fod triniaeth yn ei glinig preifat yng Nghroesoswallt yn gallu costio tua £6,500.
'Annog i brynu yswiriant'
Dywedodd llefarydd ar ran tîm pêl-droed merched Caerdydd: "Mae anafiadau difrifol wastad yn broblem gan ein bod ni'n cael ein hystyried yn glwb amatur.
"Ry'n ni wastad yn annog ein chwaraewyr i brynu yswiriant meddygol. Mae rhai'n gwneud a rhai ddim. Mae'n elfen o risg y mae'n rhaid i bob unigolyn ystyried.
"Dros y blynyddoedd mae'r gefnogaeth wedi gwella... rydym yn ffodus ein bod yn defnyddio ffisiotherapydd preifat sy'n gwneud y gwaith diagnosis ac yn cynorthwyo lle mae'n bosib i ganfod llawdriniaeth ar gyfer anafiadau difrifol."
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod wedi penodi ffisiotherapydd llawn amser yn Ionawr 2018 i fod yn gyfrifol am ddarpariaeth feddygol i'r brif garfan ynghyd â'r rhai dan-19 a dan-17.
"Mae'r prif chwaraewyr yn dod o dan ein polisi yswiriant iechyd i sicrhau eu bod yn derbyn y driniaeth briodol pan ar ddyletswydd ryngwladol, ac i gynorthwyo'r clybiau gyda gofal meddygol i chwaraewyr," meddai llefarydd.
"Rydym yn cyfathrebu'n gyson gyda chlybiau er mwyn cynorthwyo gyda'r newidiadau rhwng pêl-droed clwb a phêl-droed rhyngwladol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2019
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2019