Penodi Meri Huws yn Is-lywydd y Llyfrgell Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Meri Huws

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Meri Huws wedi cael ei phenodi'n Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ms Huws oedd y Comisiynydd Cymraeg cyntaf pan ddaeth y swydd i fodolaeth yn 2012.

Fe ddaeth cyfnod Ms Huws i ben fel Comisiynydd y Gymraeg ym mis Mawrth eleni, gyda'r cyn-Aelod Cynulliad, Aled Roberts yn ei holynu.

Mae Ms Huws hefyd yn gyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac roedd yn aelod o Fwrdd yr Iaith rhwng 1993 a 1997.

'Toreth o brofiad'

Wrth groesawu'r penodiad, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC y "bydd Meri yn dod â thoreth o brofiad i'r swydd".

Mae Michael Cavanagh, Quentin Howard a Carl Williams hefyd wedi eu penodi yn ymddiriedolwyr y Llyfrgell Gen.

Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Mae'r unigolion hyn yn dod o gefndiroedd gwahanol iawn a byddant yn dod â safbwyntiau newydd a gwahanol i'r bwrdd wrth i waith ddechrau ar gynllun strategol newydd ar gyfer y sefydliad."