Newid canlyniadau profion rhifedd wedi 'problem fach'

  • Cyhoeddwyd
DysguFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr asesiad rhifedd gweithdrefnol oedd y cyntaf i'w gymryd ar-lein

Bydd canlyniadau profion rhifedd miloedd o ddisgyblion yn gorfod cael eu newid yn dilyn problem gyda'r ffordd y cafodd y data ei brosesu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "problem fach" wedi cael ei amlygu gyda'r ffordd y cafodd y canlyniadau eu haddasu i sgôr "safonedig yn ôl oedran".

Yr asesiad rhifedd gweithdrefnol oedd y cyntaf i'w gymryd ar-lein fel rhan o newidiadau i'r profion rhifedd a darllen cenedlaethol i ddisgyblion ym mlynyddoedd 2 i 9.

Yn ôl llefarydd bydd yna "newid bach" i farciau'r mwyafrif o'r 268,000 o ddisgyblion a gymrodd y profion.

Symud profion ar-lein

Bydd mwyafrif y disgyblion gafodd dros y cyfartaledd yn gweld gostyngiad i'w marc, a'r mwyafrif sgoriodd o dan y cyfartaledd yn gweld cynnydd.

Mae'r profion darllen a rhifedd yn cael eu symud ar-lein dros gyfnod o dair blynedd.

Ar ôl cyflwyno'r asesiad ar-lein ar gyfer rhifedd gweithdrefnol yn 2018-19, bydd yr asesiadau darllen Cymraeg a Saesneg ar gael ar-lein o hydref 2019, cyn i'r asesiadau rhifedd (rhesymu) newydd gael eu cyflwyno yn 2020-21.

Mae'r asesiadau newydd yn cael eu teilwra i unigolion gyda'r cwestiynau yn dibynnu ar atebion blaenorol y disgybl, gyda'r bwriad o greu darlun mwy cyflawn o gyrhaeddiad plentyn.

Mae'r canlyniadau crai yn cael eu safoni yn ôl oedran, sy'n golygu eu bod yn cael eu cymharu gyda disgyblion eraill gafodd eu geni yn yr un mis a blwyddyn, ac wedyn eu haddasu yn ôl oedran y plentyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r profion darllen a rhifedd yn cael eu symud ar-lein dros gyfnod o dair blynedd

Beth yw'r newidiadau?

Bydd mwyafrif y disgyblion gymrodd yr asesiadau rhifedd gweithdrefnol yn gweld newid bach i'w marc.

Y cyfartaledd "safonedig yn ôl oedran" yw 100.

  • Ni fydd yr un disgybl yn croesi o lai na 100 i fwy na 100, nac i'r cyfeiriad arall;

  • Bydd marciau mwyafrif y disgyblion sgoriodd o dan 100 yn codi ychydig - o leiaf un pwynt ond dim mwy na wyth;

  • Bydd marciau mwyafrif y disgyblion sgoriodd dros 100 yn gostwng ychydig - o leiaf un pwynt ond dim mwy na wyth.

Beth yw'r profion?

Cafodd y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol eu cyflwyno yn 2013 i ddisgyblion blynyddoedd 2 i 9.

Eu pwrpas, yn ôl Llywodraeth Cymru, yw helpu athrawon i fesur cynnydd disgyblion a chefnogi eu haddysg - nid mesur ysgolion.

Ond maen nhw'n ddadleuol ac mae rhai ysgolion yn honni eu bod yn rhoi pwysau ar blant ifanc a ddim yn cyfrannu at ddealltwriaeth athrawon o berfformiad disgyblion.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod symud i system asesiadau ar-lein yn rhoi adborth mwy defnyddiol, gan ysgafnhau baich gwaith athrawon.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kirsty Williams y bydd "newid bach i'r sgôr safonedig yn ôl oedran"

Mewn datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r Cynulliad dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams eu bod wedi darganfod "problem fach" gyda'r dull cyfrifo.

"O ganlyniad, gwnaed rhai newidiadau i'r sgoriau safonedig yn ôl oedran a gyflwynwyd cyn diwedd tymor yr haf," meddai.

"Nid yw hyn yn effeithio ar y wybodaeth a ddarperir am sgiliau pob dysgwr unigol, sef prif nod yr asesiad; mae hwn ond yn newid bach i'r sgôr safonedig yn ôl oedran."

Ychwanegodd yn ddiweddarach bod "gwiriadau ychwanegol" wedi eu gwneud i'r drefn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ysgrifennu at benaethiaid ynglŷn â'r newidiadau ac y bydd ysgolion yn cael y wybodaeth wedi'i addasu erbyn dechrau mis Hydref.

Ychwanegodd mai ysgolion fyddai'n penderfynu sut i rannu'r wybodaeth gyda rhieni a gofalwyr.