Adeiladau ysbytai Cymru angen £560m o waith atgyweirio
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud gwaith atgyweirio gwerth dros £560m ar adeiladau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Dyna ganfyddiad ymchwil gan BBC Cymru sy'n dangos fod cyflwr difrifol rhai adeiladau yn achosi risg i gleifion.
Mae'r ymchwil hefyd yn dangos fod cost y gwaith cynnal a chadw sydd angen ei gyflawni ar fyrder wedi cynyddu dros 60% mewn blwyddyn - sy'n golygu erbyn hyn fod gwerth £261m o broblemau yn cael eu hystyried o "risg uchel" neu "risg sylweddol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod dros £370m wedi ei neilltuo ar brosiectau iechyd eleni a £338m ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Yn ôl yr ymchwil mae byrddau iechyd ar hyd a lled Cymru yn cael anawsterau cynnal nifer sylweddol o hen adeiladau.
Mae 50% o ystâd y gwasanaeth iechyd dros 35 mlwydd oed.
Gall BBC Cymru hefyd ddatgelu fod mwyafrif y byrddau iechyd wedi methu â chynnal asesiad ffurfiol o broblemau sydd ynghlwm â'i hystâd oherwydd diffyg arian - er ei bod hi'n ofynnol iddyn nhw gynnal asesiad o'r fath bob pum mlynedd.
Mae cost y gwaith cynnal a chadw sydd angen ei gyflawni - £561m yn 2017/18 - yn cyfateb i 9% o gyfanswm gwariant bob dydd y gwasanaeth.
Mae'r cyfanswm hwnnw hefyd yn fwy na dwywaith yr holl wariant cyfalaf gafodd ei glustnodi ar gyfer iechyd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru'r flwyddyn honno.
Ymhlith prif ganfyddiadau'r ymchwil:
Mae hanner ystâd y gwasanaeth yng Nghymru dros 35 oed, ac mae 13% dros 70 oed - yn hŷn na'r gwasanaeth iechyd ei hun;
Dydy 13% o'r ystâd ddim yn cydymffurfio â rheolau statudol diogelwch - yn cynnwys diogelwch tân;
Mae 22% o ystâd byrddau iechyd Betsi Cadwaldr a Phowys yn methu â chyrraedd y safonau diogelwch;
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd angen gwario'r swm mwyaf ar y problemau mwyaf brys - £28.6m;
Mae gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro waith gwerth £100m i'w gyflawni i fynd i'r afael â phroblemau sy'n cael eu barnu'n risg uchel neu risg sylweddol;
Dim ond 36% o ystâd y gwasanaeth ambiwlans sy'n cael ei farnu "o safon rhesymol" o ran cyflwr ac addasrwydd.
Dyddio o Oes Fictoria
Ym Mhowys mae mwy o hen adeiladau ysbyty nac unrhyw le arall yng Nghymru, gan gynnwys rhai sy'n dyddio o Oes Fictoria.
Fe godwyd prif adeilad Ysbyty Bro Ddyfi ym Machynlleth fel wyrcws yn 1860 cyn cael ei drawsnewid yn Ysbyty Goffa Edward VII yn 1923 ac yna'n ysbyty trin cyflyrau'r fron.
Fe gafodd estyniadau i'r adeilad eu codi wrth i'r gwasanaeth iechyd ddatblygu ond yn y blynyddoedd diweddar mae'n gollwng dŵr ac fe farnwyd bod rhan o'r llawr cyntaf yn anniogel.
Roedd yna amcangyfrif bod angen £4.2m i gwblhau gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu'r adeilad yma yn unig.
Bydd adain newydd gwerth £3.7m nawr yn cael ei chodi yn lle'r hen estyniadau ac adeilad dros dro.
Bydd adnoddau newydd yr adain yn cynnwys canolfan iechyd â gwasanaethau cymunedol, canolfan iechyd meddwl i oedolion, ystafelloedd gofal lliniarol a gardd therapi.
Pryderon gweithiwr
Cysylltodd gweithiwr yn Ysbyty Athrofaol Cymru â BBC Cymru gyda phryderon am y posibilrwydd o ledu heintiau wrth i bethau dorri lawr.
Mae'n honni bod "torri corneli" yn arwain at sefyllfaoedd fel cludo biniau gwastraff ysbyty yn yr un lifftiau â chleifion ac ymwelwyr, gan gynyddu'r risg o ledu heintiau i'r wardiau.
Mae hefyd yn dweud bod pobl yn gorfod defnyddio twnneli llawr gwaelod yr ysbyty, sydd i fod ar gyfer staff yn unig er mwyn symud yn sydyn o amgylch yr adeilad, pan fo lifftiau wedi torri.
"Maen nhw'n gwthio babanod, pobl sâl mewn gwelyau, i'r bloc nesaf er mwyn ceisio cael lifft," meddai.
"Rydw i wedi gweld teulu'n cyrraedd gyda rhywun yn sâl iawn mewn gwely yn cael eu rhuthro o'r adran ddamweiniau a brys drwy'r twnnel, trwy'r hylifau [a ollyngwyd] ac i'r lifft i ward arall."
Mae cyfarwyddwr cyfalaf, ystadau ac adnoddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Geoff Walsh yn cydnabod bod yna heriau, gan ddweud bod nifer o adeiladau'n beirianyddol gymhleth.
"Mae safle'r Ysbyty Athrofaol â rhyw 81 o lifftiau ac mae llawer yn rhyw 48 oed," meddai.
"Mae'r bwrdd iechyd yn gweithredu rhaglen o osod lifftiau newydd fydd yn mynd i'r afael â llawer o'r problemau, er bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i'w chwblhau.
"Mae dau lifft yn cael eu gosod at hyn o bryd... ar gyfartaledd, gall hyd at bump o lifftiau fod wedi torri bob dydd oherwydd mân broblemau."
'Arian i helpu trawsnewid y GIG'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi neilltuo dros £370m mewn cyfalaf ar gyfer prosiectau iechyd eleni a £338m ar gyfer y flwyddyn nesaf.
"Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cynnal a chadw eu hystadau fel bod pobl yn cael gwasanaethau diogel a chynaliadwy," meddai.
"Rydym hefyd yn rhoi cyllid ar gyfer prosiectau mawr fydd yn ein helpu i drawsnewid y GIG gan gynnwys yr Ysbyty Athrofaol Grange newydd yng Nghwmbrân, gwaith adnewyddu mawr yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, a thros £70m ar gyfer 19 o brojectau gofal sylfaenol a chymunedol ar draws Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2019
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018