Gall gwestau newydd ymchwilio i ragor o achosion
- Cyhoeddwyd
Mae crwner cwestau newydd i farwolaethau pedwar o bobl oedrannus mewn cartrefi gofal yn ne Cymru yn ystyried a ddylid cynnwys mwy o achosion.
Daeth sylwadau Geraint Williams yn ystod gwrandawiad rhagarweiniol yng Nghasnewydd cyn cwestau i farwolaethau Dorothea Hale, Evelyn Jones, Stanley Bradford ac Edith Evans.
Dywedodd y bydd hefyd yn ystyried a ddylai'r wladwriaeth ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb dros y marwolaethau.
Clywodd y llys y bydd y cwestau llawn yn cael eu cynnal o flaen rheithgor.
Dywedodd Mr Williams, a gafodd ei benodi'n neilltuol i oruchwylio'r cwestau, ei fod yn adolygu'r dystiolaeth gan "edrych ar rywfaint o achosion eraill ar hyn o bryd".
Yn 2005, fe ymchwiliodd Heddlu Gwent i chwe chartref gofal fel rhan o Ymgyrch Jasmine - ymchwiliad a gostiodd £15m a'r un fwyaf ar y pryd trwy'r DU i gam-drin honedig mewn cartrefi gofal.
Daeth achos yn erbyn perchennog dau o'r cartrefi, Dr Prana Das, i ben yn 2013 wedi iddo gael anafiadau i'w ymennydd yn dilyn lladrad yn ei gartref.
Roedd Dr Das yn wynebu cyhuddiadau'r ymwneud ag esgeulustod a thwyll yng nghartrefi Brithdir yn Nhredegar Newydd a The Beeches ym Mlaenafon.
Awgrymodd ymchwiliad Ymgyrch Jasmine bod yna 100 o ddioddefwyr posib.
Amau cyfrifoldeb y wladwriaeth
Ar ôl darllen adroddiadau'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r Dr Margaret Flynn, awdur adolygiad annibynnol i'r gwersi posib yn sgil yr honiadau, dywedodd Mr Williams bod "achos rhesymol i amau y gallai'r wladwriaeth bod â rhywfaint o gyfrifoldeb am y marwolaethau".
Dywedodd Dr Flynn yn 2015 y dylid fod wedi erlyn Dr Das ond daeth Gwasanaeth Erlyn Y Goron i'r casgliad bod dim digon o dystiolaeth i erlyniad lwyddo.
Dywedodd Mr Williams bod 6,000 o ddatganiadau wedi eu casglu hyd yma, a 10,000 o eitemau o dystiolaeth.
Cymharodd sefyllfa preswylwyr y cartrefi i sefyllfa rhywun "yn cael ei gadw yn y ddalfa".
"Mae'n amlwg o'u hoedran, gwendid ac iechyd gwael yn gyffredinol nad oedden nhw mewn unrhyw sefyllfa i benderfynu dros eu hunain," meddai.
Am y rheswm hynny, meddai, ac oherwydd "proffil uchel" yr achos, dylid cael rheithgor yn y cwestau terfynol.
Bydd yna wrandawiad rhagarweiniol arall ym mis Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd5 Awst 2015
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2015