Apêl gan bentrefwyr i ddatrys problemau cyflenwad dŵr
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o drigolion sy'n byw ar gyrion pentref gwledig yng Ngheredigion wedi galw ar Dŵr Cymru i fuddsoddi ar frys yn yr isadeiledd lleol ar ôl colli eu cyflenwad dŵr.
Mae'n broblem reolaidd yn ôl trigolion ym Mhonthirwaun, ger Aberteifi.
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro i'r cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio ac yn dweud eu bod yn buddsoddi i wella'r sefyllfa gan eu bod yn "ymwybodol o broblemau hanesyddol gyda'r cyflenwad i Bonthirwaun".
Un o'r trigiolion ydy'r awdures, Anwen Francis, sy'n honni ei bod wedi cael 16 o negeseuon testun gan Dŵr Cymru ers dechrau 2019 yn ei rhybuddio am broblemau gyda'i chyflenwad.
"Ni wedi bod heb ddŵr eto, ers bore ddoe," meddai Ms Francis. "Mae'n broblem i'r plant ond hefyd i'r ceffylau a'r cŵn.
"Mae'n rywbeth sydd yn digwydd trwy'r amser. Tro hyn, ni wedi bod bron 24 awr heb ddŵr.
"Mae'n rhaid mai hen bibellau dŵr sydd yn cael eu trwsio, ond unwaith maen nhw'n cael eu trwsio, mae'n digwydd 'to.
"Dwi'n credu bod angen pibellau dŵr newydd yn yr ardal, yn enwedig os ydy Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu adeiladu rhagor o dai yn y pentref.
"Ni'n galw ar Dŵr Cymru i wneud rhywbeth drastic. Mae'r gweithwyr sydd yn lleol wedi bod yn wych ond pan 'dwi'n ffonio'r brif swyddfa, does dim byd yn digwydd.
"Dwi'n meddwl taw patsho'r problemau maen nhw'n gwneud."
Dywedodd Amanda Adams, sy'n byw ar fferm gyfagos, bod y sefyllfa'n effeithio arni hithau hefyd.
"Rydyn ni yma ers 13 o flynyddoedd ac mae wedi effeithio arnom ni ers y diwrnod wnaethon ni symud i mewn yma," meddai.
"Dydi'r peiriant golchi dim yn gweithio'n iawn, y peiriant golchi llestri... Wnaethon nhw drwsio fe ddoe ac fe fyrstiodd eto.
"Mae pwysedd isel gyda ni 24/7. Mae'n issue parhaol i ni. Rydyn ni heb gyflenwad unwaith neu ddwywaith yr wythnos."
Ymddiheuro
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod wedi cael gwybod nos Iau bod dŵr yn gollwng o brif bibell ger Capel Tygwydd, gan ddanfon swyddogion i ymchwilio i'r sefyllfa a dechrau gwaith atgyweirio brys.
"Roedd cyflenwadau wedi eu hadfer i'r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn yr oriau mân, ond oherwydd cymhlethdod y niwed â'r atgyweirio angenrheidiol, cafodd cyflenwad rhai cwsmeriaid ei atal bore 'ma," meddai.
"Rydym yn dal yno i gwblhau'r atgyweirio ac yn defnyddio tanceri i adfer a chynnal cyflenwadau i'r cwsmeriaid sydd wedi'i heffeithio, ac rydym wedi darparu dŵr potel i gwsmeriaid bregus."
Mae'r cwmni, meddai, yn "ymwybodol o broblemau hanesyddol gyda'r cyflenwad i Bonthirwaun ac rydym wedi buddsoddi i wella'r gwydnwch" ac yn adolygu'r sefyllfa'n gyson "i sicrhau bod y cyflenwad yn gwella".
Ychwanegodd: "Rydym yn ymddiheuro i'r cwsmeriaid sy'n cael eu heffeithio am yr anhwylustod ac yn diolch iddyn nhw am eu hamynedd wrth inni gwblhau'r gwaith yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2017