Wylfa: Gohirio penderfyniad ar gais cynllunio
- Cyhoeddwyd

Gobaith y prosiect oedd dechrau'r gwaith o adeiladu Wylfa Newydd yn 2020
Mae datblygwyr atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn wedi clywed y bydd oedi pellach cyn cael gwybod a ydyn nhw wedi sicrhau caniatâd cynllunio gan Lywodraeth y DU.
Gobaith cefnogwyr y prosiect yw y gallai hyn arwain at ailddechrau trafodaethau rhwng y ddau ynglŷn ag ariannu'r prosiect gwerth £13bn.
Roedd disgwyl i'r Ysgrifennydd Busnes, Andrea Leadsom gymeradwyo cais Pŵer Niwclear Horizon am orchymyn caniatâd datblygu (DCO), ond brynhawn Mercher daeth cadarnhad fod y penderfyniad wedi'i ohirio tan ddiwedd Mawrth 2020.
Roedd y datganiad gan Lywodraeth y DU yn gofyn am eglurder ar nifer fawr o bwyntiau yn ymwneud â'r cais.
Yn ôl Horizon fe fydd gan y penderfyniad "ddylanwad mawr" ar ddyfodol y cynllun.
Wylfa Newydd fyddai'r prosiect ynni mwyaf erioed i gael ei adeiladu yng Nghymru.

Byddai Wylfa Newydd yn cael ei adeiladu ar dir ger yr hen atomfa
Roedd disgwyl i 9,000 o weithwyr gael eu cyflogi yn ystod y gwaith o osod y ddau adweithydd, oedd i fod i ddechrau cynhyrchu trydan yng nghanol y 2020au gan gyflenwi hyd at bum miliwn o gartrefi am 60 mlynedd.
Ond cyhoeddodd cwmni Hitachi - sy'n berchen ar Horizon - ym mis Ionawr ei fod yn atal y gwaith am y tro ar ôl methu a dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r pris fyddai'n cael ei dalu am drydan o'r safle.
Ers hynny mae gweinidogion wedi bod yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â ffyrdd newydd o ariannu prosiectau ynni niwclear drud.
Dywedodd y datganiad gan Lywodraeth y DU: "Ar ôl cwblhau'r archwiliad ynglŷn â'r cais am Atomfa Wylfa Newydd ar 23 Ebrill 2019, cyflwynodd yr Awdurdod Archwilio Adroddiad ac Argymhelliad ynglŷn â'i ganfyddiadau a'i gasgliadau i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar 23 Gorffennaf 2019.
"Yn unol ag adran 107 o Ddeddf Cynllunio 2008, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dri mis i benderfynu ar y cais.
"Mae sawl mater lle byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn ddiolchgar pe gallai'r partïon a nodir ddarparu diweddariad neu ragor o wybodaeth. Bydd sylwadau ychwanegol gan unrhyw bartïon sydd â buddiant yn hyn o beth ar y pwyntiau hyn hefyd yn cael eu hystyried."
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Horizon: "Rydym wedi derbyn y llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol parthed ein Gorchymyn Cydsyniad Datblygu ar gyfer Wylfa Newydd ac mi fyddwn yn ei adolygu'n fanwl.
"Yn amlwg rydym yn siomedig na chawsom y penderfyniad heddiw ond byddwn yn gweithio tuag at mynd i'r afael â'r pwyntiau sy'n cael eu codi. "

Mae gwrthwynebiad wedi bod i gynllun Wylfa Newydd o'r dechrau
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd3 Mai 2019