'Roedd Brooke yn ferch ryfeddol' medd datganiad teulu

  • Cyhoeddwyd
Brooke MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teulu Brooke Morris wedi rhoi teyrnged iddi, gan ei disgrifio fel "merch ryfeddol".

Cafwyd hyd i'w chorff yn afon Taf ger Abercynon ar 16 Hydref ar ôl iddi fynd ar goll wedi noson allan.

Cafodd Ms Morris, 22, oedd yn chwarae i Glwb Rygbi Nelson, ei gweld ddiwethaf y tu allan i'w chartref yn Bontnewydd Terrace, Trelewis yn ystod oriau mân ddydd Sadwrn, 12 Hydref.

Dywed datganiad ei theulu bod ei marwolaeth wedi "chwalu ein bywyd teuluol... does dim geiriau i fynegi ein tristwch, galar a cholled".

Mae'r datganiad ar ran Karen, Gary, Sam a Jack Morris yn diolch pawb a helpodd i chwilio amdani "o waelod ein calonnau".

"Er nad ydy Brooke gyda ni bellach, mae wedi gadael etifedd rhyfeddol - mae Brooke wedi llwyddo i ddod â chymaint o bobl at ei gilydd yn ein cymuned ac rydym wedi ein cyffwrdd yn ddwfn gan yr ysbryd cymunedol rydym wedi ei weld.

"Bydd bywyd fyth yr un fath eto heb Brooke, ond mae'r atgofion hapus rydyn ni'n eu rhannu o ryw gysur yn y cyfnod poenus yma."

Mae swyddogion Heddlu De Cymru'n parhau i roi cymorth arbenigol i'r teulu wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo i amgylchiadau marwolaeth Ms Morris.