Dŵr ymdrochi Cymru 'ymysg y glanaf yn Ewrop' unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Mae traeth Bae Barafundle wedi ennillFfynhonnell y llun, Andrew Burton
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Bae Barafundle yn Sir Benfro

Cymru sydd â rhai o'r safleoedd glanaf yn Ewrop ar gyfer dŵr ymdrochi, yn ôl ystadegau newydd gafodd eu cyhoeddi ddydd Gwener.

Mae Canlyniadau Ansawdd Dŵr Ymdrochi 2019 yn dangos fod Cymru wedi cydymffurfio â'r safonau ansawdd dŵr ymdrochi ym mhob un o'i 105 o safleoedd dynodedig.

Yn dilyn gwaith samplu dŵr yn ystod yr haf gan Gyfoeth Naturiol Cymru, enillodd 83 ardal sgôr uchaf yr Undeb Ewropeaidd, sef 'rhagorol', yn uwch na ffigwr y llynedd o 78.

Ni chafodd yr un ardal ei rhoi yn y categori 'gwael'.

Dŵr ymdrochi o'r safon uchaf yw un o'r meini prawf allweddol mae angen eu bodloni i ennill y Faner Las.

Mae ardaloedd ymdrochi a enillodd y sgôr 'rhagorol' yn cynnwys Porth Eirias, Bae Oxwich a Southerndown.

Dywed Llywodraeth Cymru fod yr ystadegau yn rhoi "hwb arall i dwristiaeth ar hyd arfordir Cymru".

Ffynhonnell y llun, Amanda Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Southerndown ymysg yr ardaloedd ymdrochi a enillodd y sgôr 'rhagorol' eleni

Cafodd Traeth y Castell, Dinbych-y-pysgod, ei enwi'n draeth y flwyddyn y Sunday Times ynghynt eleni - un o'r tri thraeth yng Nghymru yn y 10 Uchaf ac un o'r wyth yn y 40 Uchaf.

Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru fod "sicrhau bod ein dŵr ymdrochi yn ddiogel ac yn lân ar gyfer pobl a bywyd gwyllt yn rhan enfawr o'n gwaith ni".

"Rydyn ni'n parhau i ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i wella a gwarchod arfordir gwych Cymru, ac i gynnal y safonau uchaf ar gyfer y rhai sy'n gweithio, chwarae a byw yn ac o amgylch ein dyfroedd," meddai.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae pawb yn gwybod bod arfordir Cymru yn cynnig rhai o'r ardaloedd mwyaf syfrdanol yn Ewrop, ac mae'r ystadegau hyn yn dangos bod gennyn ni rai o'r safleoedd glanaf yn Ewrop ar gyfer dŵr ymdrochi hefyd.

"Nid drwy hap a damwain y digwyddodd hyn - hoffwn i ganmol ein partneriaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru ac awdurdodau lleol, sydd i gyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal ansawdd uchel ein dŵr ymdrochi."