Rowndiau rhagbrofol Euro 2021: Gogledd Iwerddon 0-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gogledd Iwerddon yn erbyn CymruFfynhonnell y llun, Press Eye

Bu'n rhaid i Gymru fodloni ar bwynt wedi gêm ddi-sgôr gyfartal oddi cartref yn Stadiwm Seaview, Belfast er gwaethaf sawl cyfle da i sgorio a chynyddu'u siawns o sicrhau lle awtomatig ym Mhencampwriaeth Euro 2021.

Bydd Jayne Ludlow yn siomedig i fethu â sicrhau'r fuddugoliaeth yn erbyn tîm sydd eto i ennill gêm ragbrofol yn yr ymgyrch bresennol.

Roedd hi'n ornest flêr ar brydiau gyda'r naill dîm a'r llall yn methu â chael momentwm a chyfnod hir o bwyso.

Angharad James ddaeth agosaf at roi Cymru ar y blaen, a bu bron i Rachel Rowe sgorio hefyd.

Gyfartal - dwy gôl yr un - roedd hi hefyd yng ngêm ragbrofol gyntaf y ddau dîm yng Nghasnewydd ym mis Medi wedi i Ogledd Iwerddon rwydo yn y funud olaf.

Mae Cymru'n parhau yn yr ail safle yng Ngrŵp C, gydag wyth o bwyntiau wedi dwy fuddugoliaeth a dwy gêm gyfartal.

Ond maen nhw bellach bedwar pwynt y tu ôl i Norwy - sydd, fel un o dimau cryfa'r byd, yn debygol iawn o aros ar frig y grŵp.

Ynysoedd Ffaröe yw gwrthwynebwyr nesaf Cymru gartref ar 10 Ebrill, ac yna'r daith anodd i Norwy ar 14 Ebrill.

Dim ond tri thîm sy'n gorffen yn ail gyda'r record orau sydd yn ymuno ag enillwyr y naw grŵp yn y rowndiau terfynol, a bydd rhaid i'r chwe thîm arall yn yr ail safle gystadlu mewn gemau ail gyfle