Cau arddangosfa Cymro oherwydd llifogydd yn Fenis
- Cyhoeddwyd
Mae llifogydd difrifol wedi arwain at orfod cau arddangosfa artist o Gymru yn Biennale Fenis.
Ers mis Mai mae Sean Edwards wedi bod yn arddangos ei waith yn yr ŵyl gelfyddydol - sy'n lwyfan i gelf gyfoes o bob cwr o'r byd.
Roedd disgwyl i'r ŵyl ddod i ben ar 24 Tachwedd, ond mae Fenis wedi cael ei daro gan y llifogydd gwaethaf iddyn nhw ei weld ers 50 mlynedd.
Dywedodd Mr Edwards bod y penderfyniad i gau'r arddangosfa yn fuan wedi bod yn un "anodd".
Yn gynharach yn yr wythnos fe rannodd Mr Edwards fideo ar wefan cymdeithasol o ddŵr yn llifo i mewn i'r arddangosfa.
Yr enw ar yr arddangosfa yw Undo Things Done, ac mae'n defnyddio cerfluniau, fideo, tecstilau a delweddau - yn ogystal â pherfformiad gan ei fam - i archwilio hanes, gwleidyddiaeth a lleoliadau dosbarth gweithiol.
"Yn anffodus rydyn ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i gau'r arddangosfa. Diolch yn fawr i'r tîm allan yn Fenis am eu holl waith yn ystod yr wythnos," meddai.
Mae Cymru wedi cael presenoldeb yn Biennale Fenis ers 2003, gydag artistiaid yn cael eu dewis i gynrychioli'r gelf gyfoes orau o Gymru bob dwy flynedd.
Dywedodd trefnwyr yr arddangosfa, Wales in Venice, mewn datganiad: "Rydyn ni'n ymddiheuro o galon i unrhyw un oedd yn gobeithio ymweld â'r arddangosfa wythnos nesaf.
"Rydyn ni'n ddiolchgar bod y tîm yn ddiogel a bod bron i 25,000 o ymwelwyr wedi gallu gweld y gwaith. Rydyn ni'n cydymdeimlo yn arw a phobl Fenis a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd."
Ychwanegodd y trefnwyr eu bod nhw'n bwriadu arddangos y gwaith yn y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018
- Cyhoeddwyd30 Awst 2018