Ffrae wrth i lun Banksy gael ei arddangos ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
Gwaith BanksyFfynhonnell y llun, Scott Bamsey
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwaith celf ei beintio ar wal garej yn ardal Taibach, Port Talbot

Mae gwaith celf 'Season's Greetings' gan Banksy yn cael ei arddangos am y tro cyntaf yn ei gartref newydd ym Mhort Talbot, ond mae'r perchennog yn parhau yn anhapus.

Fe fydd Season's Greetings yn cael ei arddangos o ddydd Mercher i ddydd Gwener yn adeilad Tŷ'r Orsaf rhwng 11:00 a 15:00.

Dywed John Brandler, wnaeth dalu swm chwe ffigwr am y gwaith, fod cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi llusgo eu traed a'i fod yn anhapus gyda'r galeri maen nhw am ei sefydlu.

Fe wnaeth y llun ymddanogs gyntaf ar wal garej yn ardal Taibach fis Rhagfyr y llynedd, cyn cael ei werthu i Mr Brandler, dyn busnes o Essex.

Mae o wedi cytuno i roi'r gwaith ar fenthyg i'r cyngor am dair blynedd, ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru dalu am y gwaith o adleoli'r murlun.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith John Brandler (dde) oedd cael amgueddfa celf stryd rhyngwladol ym Mhort Talbot

Dywed Mr Brandler mai ei freuddwyd ef oedd i leoli'r gwaith mewn amgueddfa o gelf stryd rhyngwladol ond mai bwriad y cyngor yw sefydlu amgueddfa o waith artistiaid cyfoes o Gymru.

"Rwy'n poeni, rwy'n gobeithio fy mod yn anghywir. Roeddwn i am weld amgueddfa ryngwladol o waith stryd yn Port Talbot, fyddai wedi denu tua 150,000 o bobl i'r ardal bob blwyddyn.

"Dwi ddim yn gwybod amdanoch chi, ond dwi wedi gweithio yn y byd celf am 40 mlynedd a ni allaf enwi dau artist cyfoes Cymreig ar y lefel rhyngwladol.

"O be allaf i weld mae wedi cymryd 12 mis i'r cyngor roi switch (golau) ymlaen," meddai.

"Dyw'r gwaith celf ond ganddynt ar fenthyg am gyfnod cyfyngedig."

Mae hefyd yn cwyno na chafodd wybod am yr arddangosfa presennol tan ddydd Llun.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y wal ei symud ym mis Mai

Dywedodd cynghorydd sir ward Aberafan Nigel Hunt fod y broses wedi bod yn araf ond fod yna gynlluniau ar y gweill.

"Rydym yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru i gael galeri gelf gyfoes ym Mhort Talbot, a byddai Season's Geetings yn ganolbwynt i'r cyfan.

"Fe fyddai hefyd yn rhoi cyfle i artistiaid eraill i arddangos eu gwaith.

"Mae'r cynlluniau yn fy nghyffroi, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fod y broses wedi bod yn un llafurus ar adegau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod wrthi yn gwneud cais busnes ar gyfer hwb celfyddydol ym Mhort Talbot.

"Dyw'r cyngor ddim â'r adnoddau i wneud hyn ar ben ei hun ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru am help, ac rydym wedi cyflwyno cynlluniau iddyn nhw."

Ychwanegodd nad oedd yr agoriad heddiw wedi cael ei hyrwyddo yn eang, ac mai'r bwriad oedd mesur y diddordeb er mwyn cynllunio ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol.