Codi £52,000 am gyffur canser a wrthodwyd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a gafodd gais am gyffur canser wedi ei wrthod deirgwaith wedi codi £52,000 er mwyn talu amdano ei hun.
Cafodd Gemma Williams o Gwmbrân, Torfaen, ddiagnosis o fath ymosodol o ganser y fron ym mis Ionawr eleni.
Ar ôl cael triniaeth, fe gafodd wybod gan feddygon mai cyffur o'r enw Kadcyla fyddai'n rhoi'r gobaith gorau iddi o atal y canser rhag dychwelyd.
Ond cafodd ei chais i gael y cyffur ei wrthod deirgwaith gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae hi bellach wedi codi'r arian er mwyn cael triniaeth breifat.
Dechreuodd Ms Williams gael chemotherapi ym mis Ionawr, ac er iddi ddiodde gyda sgil effeithiau'r driniaeth, roedd y canser wedi mynd ar ôl cael mastectomi a radiotherapi.
Dywedodd Ms Williams: "O fewn pythefnos fe ddechreuais i golli fy ngwallt a bu rhaid i fy ngŵr siafio fy mhen.
"Roeddwn i'n meddwl y byddai hynny'n ormod i mi, ond credwch neu beidio nes i ddim tywallt deigryn am hynny.
"Roedd y 'chemo' yn greulon - cyfog, poen a fy nghroen yn dod i ffwrdd mewn mannau oedd yn wirioneddol boenus."
Ar ôl y llawdriniaeth a radiotherapi, dywedodd meddygon mai Kadcyla oedd yr opsiwn gorau i atal y clefyd rhag dod yn ôl.
Mae'r cyffur ar gael i rai cleifion GIG yng Nghymru gyda chanser eilaidd, ond mae treialon yn America'n awgrymu bod y cyffur yn atal y canser rhag dychwelyd ac fe wnaeth Ms Williams gais i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar sail hynny.
Gwrthodwyd y cais cyntaf, ynghyd â dau apêl.
Aeth Ms Williams ati gyda theulu a ffrindiau i godi'r arian eu hunain... roedd angen £45,000 i dalu am 12 cylch o driniaeth gyda Kadcyla.
Fe ddechreuon nhw godi arian ar 23 Hydref, a chyrraedd y nod o fewn pum wythnos.
"Doedden ni ddim yn credu y gallen godi cymaint mor gyflym...mae haelioni'r gymuned wedi bod yn gwbl anhygoel," meddai.
Ar ôl pasio'r nod, mae'r gronfa bellach wedi cyrraedd tua £52,000.
Mae Ms Williams yn bwriadu cynorthwyo'r uned ganser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach ynghyd ag elusennau lleol sy'n helpu teuluoedd mewn angen dros y Nadolig.
"Dwi wedi bod yn ddigon ffodus fod pobl wedi rhoi i mi, felly dwi'n credu bod hi'n amser i fi rhoi rhywbeth yn ôl," ychwanegodd.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan nad oedd yn gallu gwneud sylw ar achosion unigol, ond ychwanegodd: "Rydym yn gwerthfawrogi bod cleifion yn siomedig pan nad ydyn nhw'n medru cael cyffuriau sydd ddim fel arfer ar gael, er bod eu meddyg wedi gwneud cais.
"Rydym yn dymuno'r gorau i Gemma a'i theulu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2019