Symud gwaith Banksy i gartref newydd ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae wal garej sy'n cynnwys gwaith celf Banksy wedi ei symud o'i safle gwreiddiol i gartref newydd mewn galeri ym Mhort Talbot.
Cafod y wal â'r darn 'Season's Greetings' ei chludo drwy'r dref ddydd Mercher gyda gosgordd o geir heddlu yn sicrhau siwrne ddiogel.
Prynodd John Brandler y darn am swm chwe ffigwr ym mis Ionawr.
Fe wnaeth peirianwyr ddefnyddio craen i godi'r wal, sy'n pwyso 4.5 tunnell, a'i rhoi ar lori.
Yna cafodd ei chludo o ardal Tai-bach i adeilad Tŷ'r Orsaf yn y dref.
Fe wnaeth Steven Beynon o gwmni Andrew Scott, y contractwyr oedd yn gyfrifol am y gwaith symud, gyfaddef fod yna "ychydig o nerfusrwydd ar y dechrau" yn enwedig o gofio fod y wal wedi bod y sefyll yn yr un man am 25 mlynedd.
"Ond mae popeth wedi troi mas yn iawn."
Fe ymddangosodd y graffiti ar garej y gweithiwr dur Ian Lewis dros nos yn ystod mis Rhagfyr y llynedd, a chafodd ei werthu i berchennog oriel o Essex ym mis Ionawr.
Dywedodd Mr Lewis fod y gwaith o symud wedi golygu misoedd o gynllunio ymlaen llaw.
"Mae wedi bod yn gymysgedd o deimladau - yn bleser, yn boenus a chyffrous ac yn llawn pryder."
Ers ei ddarganfod mae'r gwaith celf wedi cael ei orchuddio er mwyn ei ddiogelu - a bu'n cael ei warchod am 24 awr y dydd.
Mae Mr Brandler o'r farn y gallai'r gwaith celf ddenu hyd at 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i Bort Talbot, a dywedodd ei fod yn bwriadu ei gadw yn y dref.
"Cyn ei symud, pan oeddech yn edrych ar y gwaith roeddech yn gweld llygredd o'r simneiau y tu cefn iddo - ond dyna pam mai dyma yw ei gartre' iawn.
"Byddai ddim yn teimlo'r un fath pe bai yn galeri Tate, neu mewn galeri yn Mayfair, Efrog Newydd neu Paris.
"Rwy'n teimlo mai fan hyn mae o fod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2019
- Cyhoeddwyd7 Mai 2019
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019