'Annhebygol' y gall ap Apton barhau heb fuddsoddiad

  • Cyhoeddwyd
AptonFfynhonnell y llun, Apton
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 3,000 o ddefnyddwyr wedi tanysgrifio i Apton

Mae gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth Apton yn "annhebygol iawn" o allu parhau heb fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yn ôl prif weithredwr Recordiau Sain.

Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad, dywedodd Dafydd Roberts ei bod yn "anodd" cystadlu gyda chwmnïau enfawr fel Spotify ac Apple.

Mae Sain wedi buddsoddi £100,000 yn y fenter, gyda Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £30,000 arall.

Mae tua 3,000 o ddefnyddwyr wedi tanysgrifio i Apton, gan gynnwys ysgolion a chynghorau.

Dywedodd llefarydd fod "tyfu'r diwydiant cerddoriaeth fasnachol yn flaenoriaeth allweddol" i Lywodraeth Cymru.

'Proses ddrud'

Dywedodd Mr Roberts yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor: "Mae datblygu ap o'r math yma yn broses ddrud o ran technoleg a rhaglennu, ac o ran ei ddiweddaru a gwaith cynnal a chadw.

"Mae hi'n annhebygol iawn y gall Apton barhau heb fuddsoddiad pellach yn ei ddatblygiad."

Ychwanegodd fod yr ap yn helpu gyda nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae ysgolion cynradd ac awdurdodau lleol yn tanysgrifio i Apton - maen nhw'n sylweddoli ei fod yn wasanaeth diogel i blant ac yn ffordd i chwarae cerddoriaeth Gymraeg mewn ysgolion," meddai Mr Roberts.

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Roberts yw prif weithredwr cwmni recordiau Sain

Dros y penwythnos fe lwyddodd cân Yma o Hyd gan sylfaenydd Sain, Dafydd Iwan, i gyrraedd rhif un yn siart iTunes yn y DU.

Dywedodd Mr Roberts bod traciau Sain wedi cael eu ffrydio tua 4.5 miliwn o weithiau ar wasanaethau fel Apton, Spotify ac Apple y llynedd.

Ond ychwanegodd bod yr arian sy'n cael ei wneud o hynny yn "gyfyngedig iawn" gan eu bod yn gwneud cyn lleied o arian pob tro mae cân yn cael ei ffrydio.

"Y broblem yw bod yr incwm mae Sain yn ei dderbyn yn gyfyngedig iawn - £0.0045 y ffrwd - ac yna mae'n rhaid i ni dalu breindal i'r artist o'r swm hynny.

Er bod Mr Roberts yn cydnabod fod gwasanaethau ffrydio wedi cynyddu'r cyfleoedd i ddosbarthu cerddoriaeth Gymraeg, dywedodd ei bod yn "glir nad yw hyn yn ymarferol o ran cynnal y diwydiant recordio yn y dyfodol".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae tyfu'r diwydiant cerddoriaeth fasnachol yn flaenoriaeth allweddol i Cymru Greadigol a byddwn yn adeiladu ar lwyddiant mentrau diweddar yn ogystal â datblygu cyfleoedd masnachol i sicrhau y gall artistiaid Cymraeg eu hiaith fanteisio yn effeithiol ar lwyfannau digidol i hyrwyddo eu cerddoriaeth."