Prosiect digartrefedd Wrecsam wedi "newid bywyd"
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect sy'n darparu llety tymhorol yn ardal Wrecsam wedi bod yn "drawsnewidiol", yn ôl dyn oedd yn arfer cysgu ar y stryd.
Roedd David Evans yn un o 10 gafodd lety mewn eglwysi yn y cylch y llynedd.
Housing Justice Cymru, Esgobaeth Llanelwy a Chyngor Wrecsam sy'n rhedeg y fenter, gyda help 100 o wirfoddolwyr.
Mae'r cynllun yn weithredol am dri mis y flwyddyn ac mae'n gobeithio delio â phroblemau hirdymor yn ogystal â darparu llety a bwyd dros y gaeaf.
"Cymryd y cam nesaf"
Daeth Mr Evans yn ddigartref yn 2018 yn sgil problemau teuluol.
Bu'n cysgu ar y stryd yn Wrecsam dros fisoedd y gaeaf cyn cael gwely ddechrau 2019 gan brosiect Lloches Nos Cymuned ac Eglwys Wrecsam.
"O fis Ionawr tan fis Mawrth ro'n i'n rhan o'r prosiect," meddai.
"Mae'r gefnogaeth mae pawb yn ei gynnig - y gwirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser yn enwedig - yn ein helpu ni i gyrraedd y lefel nesaf a chymryd y cam nesaf."
Cysgu ar y stryd yn Wrecsam
Yn ôl amcangyfrifon, dolen allanol, roedd 57 o bobl yn cysgu ar strydoedd Wrecsam yn nosweithiol yn 2018-19.
Bu cynnydd o 84% yn y nifer hwnnw ers 2015-16.
Yng Nghymru, dim ond yng Nghaerdydd mae'r nifer yn uwch.
Ond mae'r gyfradd y pen yn uwch yn Wrecsam, lle mae un person yn cysgu ar y stryd am bob 2,388 sy'n byw o fewn ffiniau'r awdurdod lleol.
Drwy gyfrif faint sy'n cysgu ar y stryd ar un noson benodol mae'r ffigyrau yn cael eu casglu. Ar noson y cyfrif bob blwyddyn rhwng 2016 a 2019, doedd 'na'r un gwely gwag yn llochesi argyfwng Wrecsam.
Mae saith eglwys yn cael eu defnyddio yn llety fel rhan o'r prosiect 10 wythnos, sydd newydd ailgychwyn am y drydedd flwyddyn.
Yn nosweithiol, mae'r fenter yn cynnig swper a gwely i'r 10 unigolyn sy'n rhan ohoni. Mae'r gwesteion yn aros mewn addoldy gwahanol pob nos, gyda bysys yn eu cludo os oes angen.
Yn y bore, maen nhw'n cael brecwast cynnes a phecyn bwyd i fynd efo nhw pan ddaw'r amser i adael.
Ond mae hefyd yn rhoi sicrwydd o do uwch eu pennau a'r cyfle, drwy gydweithio, i ddod â'u cyfnod ar y stryd i ben.
"Dydyn ni ddim eisiau darparu cymorth am 10 wythnos yn unig a bod pobl wedyn yn mynd yn ôl ar y stryd," meddai Sarah Wheat o Housing Justice Cymru.
"Rydan ni'n gwneud yr hyn allwn ni drwy weithio efo asiantaethau eraill a'r cyngor i sicrhau bod cymaint o'n gwesteion â sy'n bosib yn symud ymlaen â'u bywydau."
Mae David Evans yn dweud bod y prosiect wedi gwneud "gwahaniaeth enfawr" i'w fywyd.
"Ro'n i'n ddigon lwcus i gael fflat yn syth ar ôl gadael y prosiect," meddai Mr Evans, ddaeth o hyd i lety parhaol gyda help y cyngor sir.
"Heblaw am hyn, buaswn i dal ar y stryd, mwy na thebyg. Mae wedi newid fy mywyd, i fod yn onest."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2017