Cyhuddiadau pellach yn achos llofruddiaeth bwa croes

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gerald Corrigan ei saethu ar Ebrill 19, 2019 a bu farw o'i anafiadau mewn ysbyty yn Stoke ar 11 Mai, 2019

Mae pedwar dyn sydd ar fin sefyll eu prawf dros farwolaeth pensiynwr yn Ynys Môn y llynedd wedi cael eu cyhuddo o droseddau pellach.

Roedd Terence Whall eisoes wedi ei gyhuddo o lofruddio Gerald Corrigan, 74, gyda bwa croes y tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi.

Roedd hefyd, ynghyd â thri diffynnydd arall - Darren Jones, Martin Roberts a Gavin Jones - wedi'i gyhuddo o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth, fe wnaeth y pedwar diffynnydd wadu cyhuddiad pellach, sy'n ymwneud â Land Rover Discovery, o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.

Mae Martin Roberts a Darren Jones hefyd wedi cael eu cyhuddo o gynnau tân yn fwriadol - cyhuddiad maen nhw hefyd yn ei wadu.