Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 'lladd' y gêm ar lawr gwlad

  • Cyhoeddwyd
Cae CPD Penrhyndeudraeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae CPD Penrhyndeudraeth angen gwario tua £50,000 ar wella adnoddau Maes y Parc cyn mis Ebrill

Mae canllawiau meysydd chwarae newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn "lladd" y gêm ar lawr gwlad, yn ôl cadeirydd un o glybiau'r gogledd.

Mae gan glybiau sy'n chwarae yn y drydedd a phedwaredd haen o bêl-droed yng Nghymru, y Welsh Alliance adran un a dau, tan fis Ebrill i gydymffurfio â chanllawiau newydd neu wynebu disgyn i adrannau is os na fydd eu hadnoddau'n ddigon da.

Ond yn ôl cadeirydd Clwb Pêl-droed Penrhyndeudraeth, dylai'r gymdeithas roi arian tuag at y gwelliannau angenrheidiol sydd yn gost o ddegau o filoedd o bunnau.

Dywed CBDC eu bod wedi rhoi "amser digonol i glybiau allu paratoi'n ariannol" cyn i'r newidiadau ddod i rym, a bod cymorth ariannol eisoes ar gael ar gyfer cwblhau'r gwelliannau angenrheidiol.

Bu Cymru Fyw yn edrych ar sefyllfa dau glwb - Pwllheli, sy'n chwarae yn Haen 4, a Phenrhyndeudraeth, sy'n chwarae yn Haen 3.

Mae CPD Pwllheli'n ffyddiog eu bod nhw'n mynd i allu cael adnoddau newydd yn y clwb.

Maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn gosod 'stafelloedd newid er mwyn cydymffurfio hefo gofynion CBDC.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cloc yn tician ond mae CPD Pwllheli â chynllun i geisio cyrraedd y nod, medd Dylan Llewelyn, sy'n aelod o bwyllgor y clwb

Dywedodd Dylan Llewelyn, aelod o bwyllgor CPD Pwllheli: "Mae'n rhaid i ni ateb eu gofynion nhw [CBDC] i gael trwydded felly mae 'na dipyn o waith i ni wneud yn fan'na.

"O ran maint y cae, o ran darpariaeth hefyd, 'sgennon ni ddim 'stafelloedd newid wedi bod ers 30 mlynedd - roedden ni'n defnyddio rhai'r ganolfan hamdden.

"Felly 'da ni'n gorfod codi adeilad o'r newydd a ma' rheini'n betha' drud ofnadwy i'w gwneud a felly 'da ni efo rhyw gynllun dros dro i ni allu cyrraedd y nod.

"Mae'r prosiect yma'n golygu hel rhyw £40,000… mae'r cloc yn tician rŵan, mae gennym ni tan ddiwedd Ebrill i ateb y gofynion os 'dan ni am gael trwydded.

Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Pwllheli'n ymarfer ar safle'r ganolfan hamdden

"Gobeithio, os gawn ni nhw, bod ni'n mynd i gael dyrchafiad yn ôl i drydedd haenen pêl-droed Cymru ar ei newydd wedd.

"Ma' nhw'n bwriadu i bob dim newid yn y blynyddoedd i ddod… 'da ni'n gobeithio bod yn rhan ohono."

'Dim sentan ar ôl i redeg y tîm'

Ond ansicrwydd sydd yn wynebu CPD Penrhyndeudraeth ar hyn o bryd.

Maen nhw angen codi eisteddle i 100 o bobl a chreu maes parcio a llwybr o amgylch eu cae - cynllun sy'n costio rhyw £50,000.

Mae hynny'n faich enfawr ar y clwb, yn ôl y cadeirydd, Desmond Jones.

"Dydi'r £50,000 ddim gennon ni," meddai. "Dwi'n rhoi fy hun yn y sefyllfa - a'r pwyllgor, wrth gwrs - bod ni'n mynd i wagio'r pres i gyd allan o'r banc a dim sentan ar ôl i redeg y tîm wedyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n "torri calon" pobl mewn clybiau fel Penrhyndeudraeth, medd Desmond Jones

"Neges i [CBDC] ydi bod nhw'n lladd y grassroots football… o blant i fyny i oedolion felly.

"Mae timau fel ni a Llanberis a Llanrug, sydd wedi bod yn y gynghrair ers blynyddoedd yn torri calon, a dweud y gwir.

"Gormod o bwysau ar bawb a dweud y gwir… bob tîm bach, yn fy meddwl i… heb help o gwbl. Dyna dwi'n teimlo fwyaf."

Mae Mr Jones hefyd yn dweud y dylai CBDC roi grantiau i helpu'r timau i uwchraddio'u hadnoddau i gyrraedd y gofynion.

"Ar ôl yr Ewros roedd 'na bres, meddan nhw, i grassroots football. OK, mae 'na swm go lew wedi mynd i'r gogledd, i Wrecsam i wneud y cae yn fan'no, ond does 'na'm byd yn dod i Wynedd, Meirionnydd a Sir Fôn.

"Felly dwi'n teimlo am y peth, a wedyn mae'r Welsh Premiership yn cael gormod o bres yn fy meddwl i, a dwi'n saff mai isio rhedeg timau ac academies y Welsh Premiership yn unig ma' nhw isio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gofyn i CPD Penrhyndeudraeth godi eisteddle ar gyfer 100 o bobl, maes parcio a llwybr o amgylch y cae

Dywed CBDC bod rheoliadau Haen 3 wedi eu pasio a'u cyflwyno i'r clybiau ym Medi 2017, gyda'r bwriad o roi "amser digonol i glybiau allu paratoi'n ariannol ar gyfer unrhyw welliannau oedd ei angen" cyn diwedd Ebrill 2020.

Maen nhw hefyd yn cynnig cymorth ariannol i glybiau i wneud y gwelliannau angenrheidiol drwy'r cynllun Gwelliannau Caeau Pêl-droed Cymru (WGI).

Dywedodd llefarydd: "Yn Haen 3, byddai'r clybiau sy'n gwneud cais ac yn cyrraedd y meini prawf yn derbyn 80% o gost y gwelliannau fyddai eu hangen.

"Ers Medi 2017 mae clybiau wedi cael 3 ffenestr wahanol er mwyn gwneud cais ar gyfer cyllid WGI.

"Yn ystod y cyfnod hwn, nid yw clwb Penrhyndeudraeth wedi gwneud cais ar gyfer cyllid WGI."

Mewn ymateb i sylwadau CBDC, fe ddywedodd CPD Penrhyndeudraeth na wnaeth y clwb gais am gymorth ariannol oherwydd "dryswch".