Pennaeth Ysgol Rhuthun wedi'i ddiswyddo yn dilyn pryderon

  • Cyhoeddwyd
Toby Belfield
Disgrifiad o’r llun,

Mae honiadau bod Toby Belfield wedi anfon negeseuon amhriodol at ddisgyblion benywaidd

Mae pennaeth ysgol breifat yn Sir Ddinbych wedi cael ei ddiswyddo ar ôl i arolygwyr godi pryderon ynghylch trefniadau diogelwch plant.

Cadarnhaodd Ysgol Rhuthun bod cytundeb Toby Belfield wedi dod i ben yn syth ar ôl i'r pwyllgor rheoli dderbyn adroddiad cychwynnol arolygydd annibynnol ddydd Gwener.

Awgrymodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y gallai'r ysgol gael ei dadgofrestru wedi i'r corff arolygu ysgolion, Estyn, nodi methiannau o ran cyflawni ei dyletswyddau i ddiogelu disgyblion.

Roedd Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd wedi mynegi pryderon bod "risg o niwed" i ddisgyblion.

Yn ôl adroddiadau yn y wasg roedd Mr Belfield wedi anfon negeseuon amhriodol i ddisgyblion benywaidd.

'Sefyllfa sensitif a heriol'

Dywedodd cyngor rheoli'r ysgol ddydd Llun eu bod yn cydweithio gyda'r asiantaethau perthnasol ers archwiliadau allanol y misoedd diwethaf.

"Mae hwn wedi bod, ac yn parhau, yn sefyllfa dra sensitif a heriol," meddai eu datganiad, sydd hefyd yn dweud bod Mr Belfield "ddim wedi bod yn cyflawni ei rôl yn yr ysgol" tra bod archwiliadau allanol yn mynd rhagddynt.

Mae dirprwy bennaeth yr ysgol wedi ei benodi'n bennaeth dros dro.

Ffynhonnell y llun, David Medcalf/ Geograph

Dywedodd y cyngor rheoli y bydd yr ysgol "yn gweithio'n ddiflino" i gynnwys argymhellion Arolygaeth Gofal Cymru ac Estyn yn eu hadolygiad o drefniadau diogelu lles disgyblion.

"Rydym yn benderfynol o sicrhau y bydd plant Ysgol Rhuthun, nawr ac yn y dyfodol, yn cael gofal gwell a mwy diogel o ganlyniad y gwaith sy'n mynd rhagddo rhwng y Pwyllgor Rheoli a'r awdurdodau addysg."

Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn obeithiol y byddem ni wedi cytuno ar gynllun gweithredu cynhwysfawr yn fuan, ac yn credu bod yr hyn rydym wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn strategaeth effeithiol mewn ymateb i'r pryderon a gafodd eu codi."

Roedd AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, ymhlith y rhai oedd wedi codi pryderon.

Dywedodd ddydd Llun bod yr ysgol wedi gwneud "y penderfyniad cywir" gan fod sefyllfa'r pennaeth "yn hollol anghynaladwy wedi i'w ymddygiad amhriodol gyda disgyblion yn ei ofal gael ei ddatgelu".

Ond dywedodd bod "cwestiynau ehangach yn parhau ynghylch trefn llywodraethu'r ysgol yma a'r oruchwyliaeth drwyddi draw o'r sector ysgolion preifat yng Nghymru".

Disgrifiad o’r llun,

Dylai'r ysgol ganolbwyntio ar weithredu argymhellion arolygiaethau Cymru "heb oedi" yn sgil y pryderon sydd wedi codi, medd y Comisiynydd Plant, Sally Holland

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland ei bod yn "falch fod cyngor rheoli'r ysgol wedi gweithredu'n bendant", a bydd yn "cadw golwg agos ar y cynnydd" wrth i'r ysgol "sicrhau fod argymhellion tyngedfennol arolygiaethau Cymru yn cael eu gweithredu heb oedi".

Mae hynny, meddai, "yn cynnwys adolygu effeithiolrwydd y cyngor rheoli ei hun".

"Beth sy'n fwyaf trawiadol am yr achos yma yw pwysigrwydd gwrando ar blant a phobl ifanc," meddai.

"Mae'r materion yma wedi codi yn sgil pobl ifanc yn siarad allan.

"Rwy'n gobeithio eu bod yn teimlo fod pobl wedi gwrando arnynt a bod pethau yn mynd i newid nawr yn sgil eu dewrder."