Dim gwasanaeth trên o Aberystwyth 'am rai wythnosau'

  • Cyhoeddwyd
Llinell Rheilffordd y CambrianFfynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Network Rail maen nhw'n 'datblygu rhaglen o waith i atgyweirio'r llinell'.

Mae'n bosib na fydd trenau yn rhedeg rhwng rhai o brif drefi'r canolbarth am rai wythnosau eto oherwydd difrod a gafodd ei greu i gledrau gan Storm Ciara.

Mae tonnau uchel a llifogydd dros y penwythnos wedi torri rhannau o'r arglawdd sy'n rhedeg gyfochr â rhannau o lein y Cambrian, sy'n golygu nad oes trenau'n rhedeg rhwng Aberystwyth a Machynlleth, na rhwng Machynlleth a Phwllheli.

Ar rannau eraill mae balast wedi ei olchi i ffwrdd, ac mewn mannau mae malurion wedi cael eu sgubo ar y cledrau gan lifogydd.

Yn ôl Network Rail, sy'n gyfrifol am y rhwydwaith, ni fydd gwaith adfer yn cychwyn nes bod Storm Dennis, sydd i'w ddisgwyl y penwythnos hwn, wedi pasio.

Wythnos diwethaf fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi y byddai nifer o wasanaethau trenau yn cael eu canslo oherwydd pryderon am effaith Storm Ciara

Cafodd rhan o lein y Cambrian rhwng Amwythig a Machynlleth ei hailagor ddydd Llun, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn trefnu gwasanaethau bysiau rhwng Machynlleth ac Aberystwyth a rhwng Machynlleth a Pwllheli yn absenoldeb gwasanaeth trên.

Ffynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Ar rhan yma'r lein rhwng Machynlleth a Phwllheli mae'r clogwyn ger y cledrau wedi syrthio i'r traeth islaw.

Ffynhonnell y llun, Network Rail

Mae difrod hefyd wedi cael ei achosi i lein Dyffryn Conwy, ac ni fydd trenau'n rhedeg yno chwaith am gyfnod amhenodol.

Wrth siarad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: "Mae ein pobl ni wedi bod yn asesu'r difrod, gan gynnwys deifwyr sydd wedi bod yn archwilio rhai o'r pontydd er mwyn chwilio am unrhyw ddifrod posib.

"Fe allan ni fod wedi dechrau ar y gwaith adfer heddiw, ond gan fod storm arall ar y gweill fe allai unrhyw waith a fyddai'n cael ei wneud dros y dyddiau nesaf gael ei ddifrodi eto dros y penwythnos, ac fe fyddai'n ymdrechion yn ofer.

"Nid ydym ni'n rhagweld y bydd y rhannau yma o'r rheilffordd yn ailagor am rai wythnosau eto, a bydd dim modd rhoi amserlen ar gyfer y gwaith at ei gilydd cyn dydd Llun ar y cynharaf."

Dywedodd Bethan Jelfs, cyfarwyddwr cyflenwi cwsmeriaid gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru: "Bydd gwasanaeth bws yn gweithredu ar hyd y llwybrau yr effeithir arnynt, ond rydym yn annog ein cwsmeriaid i wirio am ddiweddariadau gwasanaeth yn rheolaidd, a byddwn yn darparu gwybodaeth wrth i'r gwaith ar y lein fynd yn ei flaen."