Chwe Gwlad: Dau newid yn nhîm Cymru i herio Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Gareth DaviesFfynhonnell y llun, CHRISTOPHE SIMON
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Davies oedd dewis cyntaf Cymru fel mewnwr yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd

Mae Gareth Davies a Ross Moriarty wedi cael eu cynnwys yn nhîm rygbi Cymru a fydd yn wynebu Ffrainc ddydd Sadwrn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dyma'r unig ddau newid i'r tîm gollodd yn erbyn Iwerddon bron i bythefnos yn ôl.

Mae Dan Biggar yn cadw ei le fel maswr er gwaethaf pryderon am ei ffitrwydd, tra bod Nick Tompkins a Hadleigh Parkes hefyd yn cadw eu lle yn y canol.

Josh Adams - sy'n holliach wedi anaf - George North a Leigh Halfpenny sy'n cwblhau'r llinell ôl.

Bydd Moriarty yn un o'r blaenasgellwyr gyda Justin Tipuric a Taulupe Faletau, gyda Jake Ball a'r capten Alun Wyn Jones yn parhau yn yr ail-reng.

Wyn Owens, Ken Owens a Dillon Lewis sydd wedi eu henwi i chwarae yn y rheng flaen unwaith eto.

'Haeddu cyfle'

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac: "Doedd Gareth [Davies] ddim ar gael ar gyfer y gêm gyntaf a chafodd ei ollwng oddi ar y fainc y tro diwethaf ac felly mae'n llawn egni ac ry'n yn edrych ymlaen i'w weld yn chwarae ddydd Sadwrn.

"Mae Ross [Moriarty] wedi creu argraff arnom hyd yn hyn ac wedi dod â llawer o egni a chyfathrebu - felly mae e'n haeddu cyfle."

Ychwanegodd: "Ry'n wedi newid chwaraewyr yr ail reng ar y fainc, ry'n yn awyddus i greu cystadleuaeth yn y fan honno ac mae Will Rowlands -a fydd yn ennill ei gap cyntaf - wedi hyfforddi yn dda ac ry'n yn edrych ymlaen i'w weld ar y cae.

"Ry'n am adeiladu ar yr hyn ry'n wedi ei wneud mor belled ac yn ceisio bod yn fwy cywir.

"Bydd Stadiwm Principality yn llawn ddydd Sadwrn - ry'n yn gwybod y bydd yr awyrgylch yn drydanol ac mae'n mynd i fod yn ddiwrnod mawr i Gaerdydd."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gareth Davies (chwith) yn ennill cap rhif 53 yn erbyn Ffrainc, gyda Moriarty (dde) yn ennill cap rhif 44

Ar y fainc bydd Ryan Elias, Rob Evans a Leon Brown yn barod i chwarae yn y rheng flaen yn ogystal â Will Rowlands - a ddylai wneud ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf - ac Aaron Wainwright.

Y llynedd ym Mhencampwriaeath y Chwe Gwlad fe drechodd Cymru'r Ffrancwyr oddi cartref o 24-19 a hynny wedi bod ar ei hôl hi o 16-0.

Yn fwy diweddar fe drechodd Cymru Ffrainc o 21-19 yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan.

Mae Cymru a Ffrainc wedi wynebu ei gilydd 98 o weithiau ers y gêm rygbi gyntaf rhyngddyn nhw yn 1908 - gyda Chymru wedi ennill 51 o'r gemau hynny.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capt), Ross Moriarty, Justin Tipuric; Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ryan Elias, Rob Evans, Leon Brown, Will Rowlands, Aaron Wainwright, Tomos Williams, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.

Tîm Ffrainc

Anthony Bouthier; Teddy Thomas, Virimi Vakatawa, Arthur Vincent, Gael Fickou; Romain Ntamack, Antoine Dupont; Cyril Baille, Julien Marchand, Mohamed Haouas, Bernard Le Roux, Paul Willemse, Francois Cros, Charles Ollivon (capt), Gregory Alldritt.

Eilyddion: Camille Chat, Jean-Baptiste Gros, Demba Bamba, Romain Taofifenua, Dylan Cretin, Baptiste Serin, Mathieu Jalibert, Thomas Ramos.

Amserlen y gemau

Sadwrn 1 Chwefror, 14:15 - Cymru 42-0 Yr Eidal

Sadwrn 8 Chwefror, 14:15 - Iwerddon 24-14 Cymru

Sadwrn 22 Chwefror, 16:45 - Cymru v Ffrainc

Sadwrn 7 Mawrth, 16:45 - Lloegr v Cymru

Sadwrn 14 Mawrth, 14:15 - Cymru v Yr Alban