Cyngor Ceredigion yn 'colli cyfle' i wella gofal dementia

  • Cyhoeddwyd
Bodlondeb

Mae cynghorwyr yn galw ar gabinet Ceredigion i ailystyried penderfyniad i werthu safle hen gartref gofal yn Aberystwyth i'w ddatblygu ar gyfer tai cymdeithasol.

Yr wythnos diwethaf dywedodd y cabinet fod cytundeb i werthu safle Bodlondeb i ddarparwr gofal lleol, am swm nad oedd wedi'i ddatgelu, wedi dod i ben.

Yn ôl adroddiad y cabinet nid oedd y darpar-brynwr yn gallu bwrw ymlaen fel y cytunwyd, ond doedd yna ddim esboniad pellach.

Mae rhai cynghorwyr ac ymgyrchwyr gofal cymdeithasol yn amau bod y cyngor yn gobeithio cael pris uwch am y safle gan landlord cymdeithasol cofrestredig.

Bellach dyma'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio, yn hytrach na gwerthu'r adeilad ar gyfer gofal nyrsio a oedd wedi'i ffafrio yn flaenorol.

Cymeradwyodd y cabinet yr argymhelliad i geisio gwerthu'r safle i landlord cymdeithasol cofrestredig o fewn tri mis - ac os nad yw hynny'n bosibl, ei werthu ar y farchnad agored.

Mae tri chynghorydd, pob un yn aelod o'r pwyllgor craffu cymunedau iachach, wedi llofnodi cynnig i 'alw mewn' penderfyniad y cabinet.

Mae disgwyl i benderfyniad ar ganiatáu'r cynnig hwnnw neu beidio gael ei wneud yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Os yw'r cais galw mewn yn cael ei ganiatáu, gallai'r pwyllgor craffu ofyn i'r cabinet ailystyried ei benderfyniad gwreiddiol.

Cafodd cartref Bodlondeb ei gau yn 2018 gyda'r cyngor yn dweud ei fod wedi bod yn gwneud colled o £400,000 y flwyddyn, a bod yn well gan bobl oedrannus dderbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cartref Bodlondeb wedi bod yn gwneud colled o oddeutu £400,000 y flwyddyn i'r cyngor cyn iddo gau

Ers hynny mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am ailagor y safle gan ddarparwr gofal preifat i ddarparu gofal i Bobl Hŷn Eiddil eu Meddwl (EMI) i gynnig gofal dementia.

Yn ôl Fforwm Gofal yr Henoed Gogledd Ceredigion, mae'r cyngor wedi colli "cyfle euraidd" i wella gofal nyrsio a dementia yn y sir.

Dywedodd y fforwm fod rhestr aros ar gyfer gofal EMI yng Ngheredigion a bod mwy na 30 o bobl o Geredigion yn derbyn gofal mewn siroedd eraill ar hyn o bryd.

Ychwanegodd aelodau'r fforwm y byddai ailagor yr hen gartref wedi darparu gofal i'r cleifion hyn yn agosach at eu cartrefi a'u teuluoedd.

"Mae sefyllfa fregus iawn yn y sir yma, yn enwedig ynglŷn â nyrsio EMI," meddai Lisa Francis, is-gadeirydd y fforwm.

"Mae pobl sydd angen nyrsio EMI yn gorfod mynd allan o'r sir ar hyn o bryd - i'r Drenewydd, neu i Lanymddyfri neu i Bontardawe.

"A dyma beth dwi ddim yn deall - roedd cyfle fan hyn ym Modlondeb i gael y gwasanaeth yma, ac mae'r cyngor wedi gwrthod y cyfle."

'Cydnabod angen'

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Dymuniad cabinet Cyngor Sir Ceredigion oedd annog y sector preifat i sefydlu darpariaeth ar gyfer nyrsio dementia o fewn y sir.

"Gwnaethpwyd hyn oherwydd bod y sir yn cydnabod yr angen ond yn anffodus nid oes gan unrhyw gyngor sir yr hawl gyfreithiol i ddarparu gofal nyrsio eu hunain.

"Ofer fu'r ymdrech i wireddu hyn oherwydd nifer o ffactorau sensitif a chyfrinachol.

"Wrth ystyried cydweithio gyda'r sector preifat, mae yna ddyletswydd ar y cyngor sir i ddiogelu rhag torri rheolau cymorth gwladol.

"Yn y cyd-destun yma, nid oedd yn bosib cwblhau'r gwerthiant oherwydd hyn ac amryw o resymau cyfrinachol eraill.

"Erbyn hyn, bu'n rhaid ystyried opsiynau gwahanol i waredu adeilad sydd wedi bod yn wag ers dwy flynedd."