Addo gwario dros £500,000 ar Neuadd Dwyfor, Pwllheli

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Dwyfor, PwllheliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 52,000 o bobl yn ymweld â'r neuadd bob blwyddyn ar hyn o bryd

Bydd dros £500,000 yn cael ei wario ar welliannau i Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli.

Mae dyfodol y neuadd wedi bod yn destun pryder yn lleol dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd y gost o'i ariannu.

Roedd y neuadd - sy'n gartref i sinema, cynyrchiadau theatr, llyfrgell a gwybodaeth i dwristiaid - mewn perygl o gau yn 2016 wrth i'r cyngor sir wneud toriadau i'w cyllideb.

Cafodd deiseb ei harwyddo gan bron i 7,000 o bobl mewn ymgais i gadw'r ganolfan gelfyddydol ar agor ar y pryd.

Ond mae cabinet Cyngor Gwynedd bellach wedi cefnogi argymhelliad i fuddsoddi £570,000 yn yr adeilad.

"Mae'n gyfnod cyffrous i dref Pwllheli, ac i Neuadd Dwyfor," meddai'r Cynghorydd Gareth Thomas, aelod cabinet dros gymunedau a datblygu'r economi.

"Wedi cyfnod o bryder ynglŷn ag ariannu'r adnodd yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf, dwi'n falch iawn bod cynllun manwl mewn lle a buddsoddiad ariannol yn cael ei sicrhau i'r adeilad diwylliannol, cymunedol ac addysgol yma.

"Wedi'r penderfyniad heddiw, gallwn fynd ati i roi'r cynllun ar waith dros y misoedd nesaf i edrych ar ail ddylunio a dodrefnu gofod y Llyfrgell a chreu toiled sy'n fwy hwylus ar gyfer defnyddwyr.

"Bydd y cyntedd yn cael ei adnewyddu i greu gofod mwy croesawgar a chreu caffi a bar ar y lleoliad i fynychwyr ei ddefnyddio a'i fwynhau."

Ychwanegodd: "O wella'r adnoddau, y gobaith yw y bydd trigolion lleol yn perchnogi'r gwaith o ddefnyddio a hyrwyddo'r lleoliad, ac yn manteisio ar neuadd amlbwrpas sy'n hwb i ddigwyddiadau Cymraeg a Chymreig yn yr ardal."