Galw am lanhau ysbwriel llifogydd o Afon Taf wedi storm

  • Cyhoeddwyd
Radyr
Disgrifiad o’r llun,

Drwm metel wedi ei olchi ar lan Afon Taf yn Radyr wedi Storm Dennis

Mae angen ymdrech sylweddol i gael gwared â llygredd a sbwriel o afonydd yn dilyn Storm Dennis, medd un grŵp amgylcheddol.

Mae cadachau ymolchi, nwyddau hylendid a drwm metel mawr ymysg y sbwriel sydd wedi ei ddarganfod ar lannau Afon Taf yng Nghaerdydd.

Dywedodd Grŵp Afonydd Caerdydd fod bywyd gwyllt wedi dioddef effaith y llygredd ac maen nhw'n galw am gamau i fynd i'r afael a'r sefyllfa.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae'n rhaid blaenoriaethu mesur effeithlonrwydd amddiffynfeydd llifogydd, a chael gwared ar unrhyw ddeunyddiau sy'n atal llif afonydd yn gyntaf.

"Dydw i erioed wedi gweld hi mor wael," meddai Dave King, sy'n gwirfoddoli gyda Grŵp Afonydd Caerdydd.

"Rydyn ni wedi bod wrthi nawr ers 10 mlynedd a hanner, ac mae maint y sbwriel sydd nawr yn sownd yn y coed a'r glannau yn anghredadwy."

'Adar yn ceisio bwyta plastig'

Fe welodd rhannau o dde Cymru lifogydd difrifol yn dilyn stormydd Ciara a Dennis fis diwethaf.

Mae coed ar lannau'r Taf wedi dal sbwriel a llygredd o dai, o ffyrdd oedd dan ddŵr ac adeiladau eraill.

Mae'n ymddangos eu bod wedi dal nifer fawr o gadachau glanhau a gwastraff nwyddau hylendid personol o garthffosydd oedd i fod i orlifo'n syth i'r afon pan roedden nhw'n llawn.

Wrth i lefel yr afonydd ostwng mae'r sbwriel a llygredd wedi dod i'r amlwg.

Disgrifiad o’r llun,

Sbwriel ar ganghennau ar lan Afon Taf ger Parc Gwledig Fferm y Fforest

"Beth mae wedi ei wneud ydy torri'r glannau yn uwch i fyny ac yna mae popeth yn cael ei olchi i lawr i waelod yr afon, sydd yma yng Nghaerdydd," meddai Mr King.

Dywedodd y grŵp bod eu haelodau wedi gweld adar yn bwyta a nythu ymysg y plastig yn barod.

Maen nhw'n rhagweld y gall problemau eraill ddatblygu i fywyd gwyllt a'r amgylchedd os nad yw'r llanast yn cael ei glirio.

Dywedodd Mr King: "Rydym wedi gweld adar yn ceisio bwyta plastig ond fe fydd yn y pen draw yn cael ei olchi ymhellach i lawr yr afon ac allan i'r Hafren a'r môr, lle gall achosi mwy o broblemau."

'Trafodaethau cynnar'

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gyfrifol am gynnal afonydd, ei fod yn gorfod blaenoriaethu rhai materion oherwydd glaw trwm parhaus.

"Mae ein gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gadw golwg ar amddiffynfeydd llifogydd a chlirio deunyddiau sy'n atal llif afonydd pan maen nhw'n effeithio ar lefel afonydd," meddai Dai Walters o'r corff.

"Byddwn yn ystyried cymryd rhan mewn gwaith cymunedol o glirio sbwriel ar sail safle-wrth-safle ac rydym mewn trafodaethau cynnar gyda rhai grwpiau er mwyn edrych ar y posibilrwydd o wneud hyn."

Dywedodd Dŵr Cymru fod carthffosydd sydd i fod i orlifo wedi eu "cynllunio i ysgafnhau'r baich ar ein systemau, i amddiffyn ein cwsmeriaid a'u cartrefi a busnesau rhag llifogydd".

Ychwanegodd y cwmni: "Heb y carthffosydd storm yma, byddai systemau dŵr gwastraff yn gorlenwi, gan achosi llifogydd i adeiladau, priffyrdd a mannau agored."