'Staff nyrsio wedi rhoi'r cryfder i mi ddod drwyddi'

  • Cyhoeddwyd
Brian Davies gyda staff uned gofal dwys Ysbyty Gwynedd, BangorFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Brian Davies gyda staff uned gofal dwys Ysbyty Gwynedd, Bangor

Mae dyn o Gaergybi a gafodd driniaeth ysbyty mewn uned gofal dwys ar ôl cael ei heintio gyda Covid-19 yn dweud ei fod wedi dod drwyddi oherwydd cefnogaeth a gofal y staff nyrsio.

Brian Davies, gyrrwr tacsi 69 oed, oedd y claf cyntaf i fynd adref o Ysbyty Gwynedd, Bangor yn dilyn triniaeth lwyddiannus ar gyfer coronafeirws.

Fe wnaeth y staff a fu'n gofalu amdano glapio wrth iddo adael yr ysbyty ddydd Llun, dair wythnos ar ôl cyrraedd.

Mae Mr Davies yn parhau i wella yn ei gartref ac yn bwriadu trefnu digwyddiad i godi arian dros yr ysbyty er mwyn diolch i'r staff a ofalodd amdano.

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Un llun olaf gydag aelodau'r gwasanaethau brys cyn i Brian Davies adael Ysbyty Gwynedd

"Nes i ddechra' teimlo 'chydig o wres ddiwedd Mawrth ond ro'n i'n meddwl bod y boen oherwydd 'mod i wedi tynnu cyhyr yn fy nghefn," meddai wrth BBC Cymru.

"Ond wrth siarad hefo fy mab ar y ffôn, yntau'n byw yn Portsmouth, nath o ddechra' poeni wrth fy nghlywed yn pesychu a dweud mod i ddim yn teimlo'n dda.

"Yn fuan ar ôl hynny, rwy'n cofio'r criw ambiwlans yn dod i'r tŷ, a dwi'n cofio cael fy symud i'r ambiwlans... y peth dwytha' dwi'n cofio ydi croesi Pont y Borth."

O'r tair wythnos y treuliodd Mr Davies yn Ysbyty Gwynedd, roedd ar beiriant awyru yn yr uned gofal dwys am bron bythefnos.

Doedd dim modd i'w deulu ymweld â'r ysbyty a bu'n rhaid iddyn nhw aros am newyddion cyson am ei gyflwr gan staff.

Disgrifiad o’r llun,

Brian Davies wrth y poster yn ei groesawu adref ar ddrws ei gartref

"Dydw i ddim yn cofio llawer am fod yn intensive care," meddai. "Ro'n i'n ymwybodol 'mod i'n gorwedd yno, ond doedd o ddim yn teimlo fel 'mod yn fy nghorff fy hun.

"Oddi mewn, ro'n i'n teimlo fel 'mod i'n gweiddi nerth fy mhen, ond 'dwi'm yn meddwl bod unrhyw sŵn yn dod ohona'i.

"Yr unig beth 'dwi yn cofio'r holl amser ro'n i yn yr ysbyty ydi bod y staff wastad yna, wastad yn edrych ar fy ôl.

"Dydw i ddim yn gallu cofio popeth 'naethon nhw ddweud na gwneud, jest y teimlad 'ma o gynhesrwydd a chefnogaeth.

"Nath hynny rhoi'r cryfder i mi ddod drwyddi. Nath o achub fy mywyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Brian Davies yn parhau i wella adref gyda chymorth ei fab, Aron a'i gymar yntau, Hayley

Roedd yna ragor o glapio a chymeradwyo pan gyrhaeddodd Mr Davies ei fflat yng nghanol Caergybi, ond bu'n rhaid i gymdogion ddilyn y canllawiau swyddogol a chadw dau fetr ar wahân wrth ei groesawu adref.

"Doeddwn i ddim yn meddwl bod gen i gymaint o ffrindiau," meddai.

"Mae pobl yn dal i weiddi 'croeso'n ôl' a 'da iawn, ti' ar draws y stryd. Mae yna boster yn fy nghroesawu adref wrth y drws.

Ychwanegodd ei fod yn "eitha' emosiynol" wrth weld ei dacsi wedi'i barcio tu allan i'w fflat a'i fod yn edrych ymlaen at gael gyrru eto yn ôl yr arfer.