Gai Toms yn feirniadol wedi i'w fam farw o Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae'r canwr Gai Toms wedi beirniadu arweinyddiaeth llywodraethau Cymru a'r DU yn ystod yr argyfwng coronafeirws ar ôl iddo golli ei fam i'r haint.
Dywedodd fod ei fam, Gwenda Thomas, oedd yn 78 oed, wedi cael yr haint tra roedd hi yn yr ysbyty.
Roedd hi wedi dioddef ers blynyddoedd â chrud y cymalau drwg, ac roedd ei himiwnedd yn isel.
Dywedodd y canwr ei bod hi wedi bod yn ysbyty ers mis Rhagfyr, ond ei bod hi wedi gwella ac yn barod i ddychwelyd adref pan ddisgynnodd a thorri asgwrn ei chlun.
Golygodd hynny fod yn rhaid iddi aros yn yr ysbyty, a dyna pryd gafodd hi'r haint.
Ffarwelio 'mewn pum munud'
Dywedodd y canwr fod gorfod "meddwl am fy mam ar ei phen ei hun mewn stafell yn mygu efo'r Covid-19 'ma" yn brofiad trist.
"Ond diolch i'r staff ga'th fy chwaer a fi fynd yno i ddweud ffarwel, gwisgo PPE am ryw bum munud i ddweud ffarwel, ac oedd hi'n fanno'n anymwybodol," meddai.
"Roedden ni'n gorfod dweud ta ta mewn mater o bum munud."
Mae Gai Toms yn hynod o feirniadol o'r ffordd mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi taclo'r pandemig.
"Mae galaru am mam yn un peth ond ar y llaw arall mae dal angen gwarchod yr NHS," meddai.
"Mae angen gwarchod y cleifion sydd ddim efo Covid-19. Mae angen gwarchod staff… mae angen gwarchod ei ddyfodol o [y gwasanaeth iechyd], felly mae'r llywodraeth bresennol sydd ohoni angen edrych o ddifri ar sut i fuddsoddi yn hyn."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "gweithio'n galed i sicrhau bod gan holl weithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd a gweithwyr gofal yr offer diogelwch a'r gefnogaeth maen nhw ei angen i barhau â'u gwaith hollbwysig".
"Mae hyn yn golygu cydweithio ag undebau, cyrff iechyd, rheoleiddwyr a llywodraeth leol. Hyd yn hyn mae 48 miliwn darn o offer diogelwch personol wedi cael eu dosbarthu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2020