AS o Sir Gaerhirfryn 'yn Sir Fôn cyn y cyfyngiadau'

  • Cyhoeddwyd
Jake Berry
Disgrifiad o’r llun,

Jake Berry AS Rossendale a Darwen o Sir Gaerhirfryn, yn San Steffan yn 2016

Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr yn dweud bod yr AS Jake Berry, sy'n cynrychioli un o etholaethau Sir Gaerhirfryn, yn treulio cyfnod yn Sir Fôn yn ystod y cyfyngiadau am ei fod wedi bod yno ers mis Chwefror.

Mae'r aelod Ceidwadol sy'n cynrychioli etholaeth Rossendale a Darwen yn berchen ar eiddo yn Rhoscolyn ger Caergybi ac mae wedi cael ei feirniadu yn hallt ar y cyfryngau cymdeithasol am aros yng Nghymru yn ystod y cyfyngiadau.

Ond mewn datganiad fore Iau, dywedodd y llefarydd bod Mr Berry yn aros yn yr ardal cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym ac felly ei fod yn dilyn canllawiau y llywodraeth.  

Yn y datganiad mae'r llefarydd yn dweud: "Yn ystod ymweliad â Chymru fe wnaeth aelod o deulu Mr Berry ddangos arwyddion o haint coronafeirws - roedd yr ymweliad hwnnw cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym.

"Fe wnaethon nhw felly ddilyn cyngor y GIG drwy hunan-ynysu ac maen nhw wedi aros yng Nghymru yn ystod y cyfnod clo ac yn ufuddhau i ganllawiau'r llywodraeth. 

"Mae Jake Berry a'i deulu yn cydymffurfio â chanllawiau Cymru a'r DU ac yn parhau i weithio yn ddiflino ar ran ei etholwyr gan roi cymorth iddynt ar faterion sydd wedi codi yn sgil yr argyfwng."

'Dilyn y canllawiau'

Mae AS Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie, yn dweud ei bod wedi bod mewn cysylltiad â Jake Berry.

Mewn datganiad ar Facebook dywed bod rhai pobl wedi cysylltu â hi yn gofyn am bresenoldeb Mr Berry ar yr Ynys, "Mae Mr a Mrs Berry wedi bod yn byw ar yr ynys ers mis Chwefror," Meddai,

"Dyma eu cartref. Mae ganddyn nhw dri o blant o dan dair oed.

"Yn drist mae Mrs Berry wedi bod yn sâl mewn ysbyty ym Mangor am fis... mae'r teulu wedi bod yma cyn i ganllawiau Llywodraeth Cymru ddod i rym ac maen nhw yn fy sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau hynny.

"Ar wahân i fynd i ymweld â'i wraig yn yr ysbyty - dyw Mr Berry ddim wedi gadael yr ynys ers mis.

"Hoffwn ddiolch i bawb yn y gymuned sydd wedi eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn."