Bygythiad mawr coronafeirws i brifysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
prifysgol caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Prifysgol Caerdydd fyddai ar eu colled fwyaf pe bai cwymp yn nifer y myfyrwyr tramor sy'n mynd yno

Mae prifysgolion Cymru'n wynebu bygythiad difrifol i'w safle ariannol a gall fod angen mwy o gymorth arnyn nhw gan y Llywodraeth, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl y dadansoddiad gan Cian Siôn o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, mae'r adroddiad yn datgelu cyfres o ddarganfyddiadau sydd yn cyfeirio at golled ddramatig mewn incwm ffïoedd dysgu ar gyfer y sector yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig.

Wrth ystyried y cwymp disgwyliedig yn y niferoedd o fyfyrwyr rhyngwladol a gaiff eu recriwtio a'r myfyrwyr cartref fydd yn cofrestru, mae'r adroddiad yn amcangyfrif gallai'r sector golli unrhyw beth rhwng £100m a £140m yn 2020-21 o incwm ffïoedd yn unig.

Mae'r adroddiad yn dadansoddi iechyd ariannol y Sector Addysg Uwch yn gyffredinol, ac yn canfod bod ffïoedd dysgu'n gyfrifol am 54.7% o incwm prifysgolion Cymru, o gymharu â 50.2% ar draws y DU.

Dywedodd Cian Siôn, ymchwilydd ar raglen Dadansoddiad Ariannol Cymru: "Mae'r pwysau ar recriwtio myfyrwyr o ganlyniad i'r pandemig Covid-19 yn cynrychioli bygythiad ariannol difrifol i'r sector addysg uwch yng Nghymru.

"Mae sawl arolwg yn awgrymu cwymp serth yn y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol a chartref fydd yn cofrestru ym mis Medi.

"Roedd sefydliadau Cymreig eisoes mewn sefyllfa ariannol wannach gymharol cyn yr argyfwng, felly mae hyn yn ergyd a gaiff ei deimlo'n waeth yma."

Disgrifiad o’r llun,

Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam sy'n fwya' dibynnol ar fyfyrwyr o Gymru

Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am bwysigrwydd cymharol y sector i economi Cymru o gymharu â Lloegr neu'r DU.

Yn ôl yr adroddiad mae prifysgolion Cymru yn cynnig 17,300 o swyddi llawn amser Cymreig.

Gall mesurau ymateb economaidd cyffredinol Llywodraeth y DU helpu sefydliadau sydd yn wynebu diffyg ariannu sydyn, ond oherwydd dibyniaeth y sector ar incwm ffïoedd, bydd effeithiau cael llai o fyfyrwyr ym mis Medi yn debygol o gael ei deimlo am flynyddoedd lawer.

Yn absenoldeb cymorth pellach gan y Llywodraeth, gallai heriau gweithredol arwain yn y pen draw at golli swyddi a'r sector yn crebachu yng Nghymru.

Yn ôl y dadansoddiad, y tri sefydliad sydd â'r mwyaf i'w golli o bosib pe bai cwymp yn y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol yw Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

Y tri sydd â'r mwyaf i'w golli o bosib pe bai cwymp yn y nifer o fyfyrwyr "cartref" yw Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Ychwanegodd Cian Siôn: "Bydd Llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan yn ystyried yn ofalus pa sectorau sydd angen y cymorth ychwanegol mwyaf brys er mwyn gwrthsefyll effeithiau'r pandemig.

"Gobeithiwn fod y canfyddiadau hyn yn egluro pwysigrwydd y sector Addysg Uwch i economi Cymru a heb ryw fath o becyn cymorth wedi ei deilwra, fe all fod yna fygythiad ariannol difrifol i'r rhan fwyaf o brifysgolion yng Nghymru."