Addasu labordy i gynhyrchu hylif diheintio dwylo

  • Cyhoeddwyd
peiriant

Mae tîm o wyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi addasu labordy technoleg solar er mwyn cynhyrchu hylif diheintio dwylo ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Mewn uned ddiwydiannol yn ardal Port Talbot, maen nhw'n datblygu ffyrdd o gynhyrchu paneli solar mwy effeithiol ac adeiladau sy'n cynhyrchu ynni eu hunain.

Ers dechrau'r pandemig maen nhw wedi addasu'r offer sy'n defnyddio cemegau i gynhyrchu paneli solar i gymysgu'r cemegau i wneud yr hylif diheintio.

"Be' sy'n mynd mewn yw dur, neu blastig neu wydr, be' sy'n dod mas ar y diwedd yw cell solar wedi'i brintio ar yr haen yna," meddai'r Athro Trystan Watson o Goleg Peirianneg y brifysgol.

Mae o'n un o 30 aelod o staff o wahanol golegau ac ysgolion Prifysgol Abertawe sydd wedi gwirfoddoli i wneud y gwaith.

"Dy'n ni ddim yn weithwyr allweddol ond dy'n ni ddim ishe aros adre a 'neud un cyfarfod Zoom ar ôl y llall," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Trystan Watson o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe

"Be' ni moyn 'neud yw cyfrannu a helpu'r sefyllfa gan ddefnyddio'r arbenigedd sy' 'ma yng Nghymru i helpu.

"Dyma ni'n penderfynu newid y prosesau cemegol yna o ymchwilio celloedd solar i wneud hylif diheintio dwylo," meddai Dr Watson.

Mae'r tîm hefyd wedi datblygu'r broses gweithgynhyrchu drwy greu offer newydd gan gynnwys darn o offer sy'n llenwi dwsinau o boteli ar unwaith.

"'Dan ni wedi bod yn datblygu a mireinio'r ffyrdd yna. Pan ddechreuon ni, roedden ni'n gallu llenwi potel pum litr mewn munud, nawr ni'n 'neud hynna mewn 20 eiliad."

Ateb y galw ar ddechrau'r argyfwng pan roedd 'na brinder oedd y bwriad, ond wrth i fusnesau ac ysgolion baratoi cynlluniau i ail-agor unwaith mae'r cyfyngiadau'n cael eu llacio, y nod rŵan ydy bod yna ddigon ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Mae'r gwaith cynhyrchu yn cael ei arwain gan Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC ond mae nifer o gwmnïau eraill wedi cyfrannu.

Mae distyllfa Coles, yn Llanddarog, wedi newid o gynhyrchu rỳm i ethanol, er mwyn gwneud yr hylif diheintio dwylo.

"Ni wedi bod yn lwcus iawn gyda'r gymuned yng Nghymru yn dod at ei gilydd," meddai Dr Watson.

Mae'r hylif diheintio, sy'n cyrraedd safonau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn ysbytai lleol.

"Mae ein practis yn falch iawn ei bod ni wedi sicrhau cyflenwad gan ein prifysgol leol. Bydd hyn yn ein helpu i gadw ein cleifion a'n staff yn ddiogel," meddai Dr Tracey Brady, meddyg teulu yng Nghanolfan Feddygol Tre-Gŵyr.