100 niwrnod o gyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru bellach wedi cyrraedd y garreg filltir o 100 o ddiwrnodau ers dechrau'r cyfnod clo mewn ymateb i'r pandemig coronafeirws.
Cafodd y cyfyngiadau eu cyhoeddi ar 23 Mawrth gan Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn y lle cyntaf ac yna gan arweinwyr Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bu'n rhaid i fusnesau ac ysgolion gau, ac fe gafodd miliynau o bobl eu rhoi ar gyfnod seibiant o'r gwaith. Ond roedd pwysau anferthol ar lawer o weithwyr hanfodol, yn arbennig gweithwyr iechyd a gofal ar reng flaen yr ymateb i'r argyfwng.
Mae pobl eraill oedd mewn sefyllfa i weithio o'u cartrefi, wedi parhau â'u dyletswyddau - llawer yn ceisio dysgu eu plant yn eu cartrefi yr un pryd.
Dyma olwg nôl ar rai o'r datblygiadau pwysicaf yn ystod 100 niwrnod cyntaf y cyfyngiadau.
Y feirws yn cyrraedd - a'r farwolaeth gyntaf
Cyhoeddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, ar 28 Chwefror fod yr achos cyntaf o Covid-19 wedi ei gadarnhau yng Nghymru .
Roedd y claf o ardal Abertawe wedi dychwelyd i Gymru o ogledd Yr Eidal, ardal gafodd ei tharo'n ddifrifol gan y pandemig.
Ychydig dros bythefnos wedi hynny, ar 16 Mawrth, daeth cadarnhad fod y farwolaeth Covid-19 gyntaf wedi'i chofnodi yma - dyn 68 oed a fu farw yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Roedd nifer o ddigwyddiadau torfol eisoes wedi'u gohirio neu'u canslo, a phobl wedi dechrau gweithio o adref a chadw dau fetr ar wahân, pan gafodd tafarndai, clybiau a bwytai orchymyn i gau nos Wener, 20 Mawrth.
Ond y gorchymyn erbyn 23 Mawrth oedd i bawb aros yn eu cartrefi, onibai i brynu bwyd, meddyginiaeth a nwyddau hanfodol, ymarfer corff unwaith y dydd neu gynnig gofal iechyd.
Roedd pobl yn cael teithio i'r gwaith os oedd hynny'n hanfodol, ond bu'n rhaid i'r rhan fwyaf o siopau a busnesau gau.
Cafodd 70,000 o bobl yn y categori "mwyaf bregus" lythyr yn eu cynghori i aros yn eu cartrefi am 12 i 16 wythnos.
Cafodd mesur brys ei gymeradwyo ar 24 Mawrth yn rhoi grymoedd ehangach i weinidogion Cymru ymateb i'r argyfwng, gan gynnwys yr hawl i osod pobl mewn cwarantîn, cau safleoedd ac adleoli athrawon.
Pwysau cynyddol a phroblemau profi
Yn nyddiau cynnar y pandemig, roedd canran uchel o'r achosion coronafeirws yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Roedd 358 o achosion wedi'u cofnodi yno erbyn 26 Mawrth, gan ysgogi ofnau fod Gwent yn gweld "yr un patrwm ag a welwyd yn yr Eidal".
Roedd y nifer hwnnw bron i hanner yr achosion trwy Gymru, a thros ddwywaith nifer unrhyw ardal arall, ond erbyn hyn mae'r bwrdd y tu ôl i ddau fwrdd iechyd arall o ran nifer yr achosion.
Fe ddechreuodd trafodaethau i sefydlu ysbytai maes ar draws Cymru i leihau'r pwysau ar y GIG, ond ar 28 Mawrth fe fethodd cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni profi, fyddai wedi caniatáu cynnal 5,000 o brofion Covid-19 ychwanegol bob dydd.
Agorodd y ganolfan brawf cyntaf yng Nghaerdydd ar 7 Ebrill, gyda rhagor ar draws y wlad o fewn dyddiau, ac fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru darged o 5,000 o brofion erbyn canol Ebrill.
Ond erbyn 19 Ebrill roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cydnabod nad oedd y trefniadau wedi bod yn "ddigon da" hyd yma.
Ar 20 Ebrill, roedd yna ymateb chwyrn pan gyhoeddodd Mr Drakeford na fyddai na ragor o dargedau a bod Cymru ond yn gallu cynnal 1,300 o brofion mewn diwrnod.
Yn y cyfamser roedd pryder yn cynyddu ynghylch trafferthion sicrhau offer diogelwch personol priodol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal. Aeth undeb Unsain Cymru cyn belled â honni fod prinder offer diogelwch personol yn "lladd" staff rheng flaen.
Roedd yna bryderon hefyd ynghylch anghysonderau cofnodi nifer marwolaethau, pan ddaeth i'r amlwg fod byrddau iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd a Hywel Dda yn y gorllewin heb gynnwys degau o achosion yn eu hystedegau i Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd nifer y marwolaethau yng Nghymru yn ymwneud â coronafeirws dros 1,000 erbyn 25 Ebrill, yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol - ffigwr uwch na rhai Iechyd Cyhoeddus Cymru am ei fod yn cynnwys marwolaethau ym mhob lleoliad, gan gynnwys adref neu mewn cartrefi gofal.
Ond erbyn dechrau Mai roedd yna arwyddion fod Cymru wedi gweld brig yr haint, gan arwain at lacio rhai o'r cyfyngiadau am y tro cyntaf ers 23 Mawrth.
Er i'r cyfnod clo gael ei ymestyn, cafodd pobl ymarfer corff tu allan fwy nag unwaith y dydd o 11 Mai, ac roedd modd dechrau ailagor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu a garddio.
Ond erbyn hynny roedd y cyngor yn Lloegr wedi newid o "aros adref" i "arhoswch yn wyliadwrus", gan arwain at bryder mewn ardaloedd sy'n denu twristiaid a galwadau i lacio'r rheolau'n gyflymach yma.
Dim ond ers 1 Mehefin y mae pobl o ddau gartref gwahanol wedi gallu cwrdd â'i gilydd y tu allan yng Nghymru, ond roedd dal disgwyl i bawb aros dau fetr ar wahân ac aros yn eu hardal leol.
Yn ystod Mehefin roedd yna achosion o Covid-19 mewn tair ffatri brosesu bwyd - yn 2 Sisters, Llangefni, Rowan Foods yn Wrecsam a Kepak ym Merthyr Tudful.
Mae siopau sy'n gwerthu nwyddau nad sy'n hanfodol wedi cael ailagor ers 22 Mehefin, ac fe wnaeth disgyblion ddechrau dychwelyd i'w dosbarthiadau ddydd Llun wedi tri mis o geisio parhau â'u haddysg adref.
Hefyd fe gyhoeddodd Mark Drakeford y bydd dau gartref yn gallu ffurfio "un cartref estynedig" yng Nghymru a threulio amser yng nghartrefi ei gilydd o 6 Gorffennaf ymlaen.
Parhau mae'r galwadau am fwy o eglurder ynghylch ailagor bwytai, tafarndai a busnesau lletygarwch.
Ond wedi 100 niwrnod a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd, mae bywyd yn dechrau dychwelyd i'r drefn arferol, gam wrth gam, unwaith eto yng Nghymru
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2020